Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Llanllugan

Disgrifiadau

"Llanlugan 1239, 1535, Lanlugan c.1291, (abades) llanhig 1377, Llanllogan 1535, Llanlligan 1536-9, 1579-80, Llanllygan 1537, c.1679, Llanllugan 1562, ll.llygan c.1566

Llan + enw afon Llugan neu enw person. Mae’n debyg bod Llugan yn cynnwys llug ‘golau, goleuni’ a geir mewn enwau afonydd megis Llugwy (Saes. Lugg) Maesyfed a Henffordd, + ôl-ddodiad -an. Cysylltwyd Llanllugan â lann lugyzn (= Llann Llugyrn) yn y gerdd Cân Tysilio o eiddo Cynddelw (c.1155-95) gan nifer o ysgolheigion ac fe gymerai W.J.Rees a Phillimore ei bod yn cynnwys enw personol Llugyrn, gan ei chysylltu â Llorcan Wyddel alias Gwyddelan, nawddsant Gwyddelwern Meirionnydd a Llanwyddelan. Llorcan - enw personol Gwyddelig. – oedd un o saith person a atgyfodwyd o farw gan Sant Beuno. Ymddengys bod cysylltu llann lugyzn â Llanllugan wedi codi am fod peth tebygrwydd rhyngddynt. Os gwir hyn, mae’n bosib mai llugyzn yw dehongliad dychmygus y bardd am –llugan yn hytrach nag enw Sant Llorcan. Llugyrn yw lluosog llugorn ‘golau, llusern’: ai egwlwys goleuadau’ yw llann lugyzn? Erys un peth yn sicr: ni all -llugan darddu’n uniongyrchol o llugyrn.
Llugan yw nawddsant yr eglwys bellach, ‘ôl-ffurfiad’ efallai o Llanllugan, gan nad oes tystiolaeth o unrhyw sant yn dwyn yr enw hwn. Awgrymodd un ysgolhaig, M.C.Jones, gysegriad cynharach Santes Ffraid (St Bride) fel arall Sanffraid, cysegriad cyffredin ym Mhowys, ond ymddengys i hyn fynd yn ôl i Gerallt Gymro, sydd yn cyfeirio at abaty Llansanfrid. yr oedd rhyw Enoc yn abad yno ym Mhowys yn y 12g. Bu lleiandy yma, wedi’r sefydlu yng nghanol y 13g., ond nid oes tystiolaeth o abaty; gwell chwilio am Llansanfrid yn Llansanffraid-ym-Mechain, neu Lansanffraid-yn-Elfael, Maesyfed.
"

Owner:
Richard Morgan
Crëwr:
Richard Morgan, A Study of Montgomeryshire Place-Names, Gwasg Carreg Gwalch, 2001
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/7/2015
Gwelediadau:
1474
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment