Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Tregynon

Disgrifiadau

"Trefkenon 1254, Trefkeno c.1291, Trefgenan 1331-2, Tresgenan 1338, Treffgenon 1365-6, Trefgenon 1393-4, 1549, Tregonon 1507, 1606-7, Tregynnon 1547, ll.dref gynon c.1566, Tregonen 1583, Tregynon 1583, c1679, Tref gynon 1550-1600
Tref + enw pers. Cynon, ‘trg.Cynon’. Priodolwyd cysegriad yr eglwys i Cynon, cymh. Capel Cynon Ceredigion, a meddylir bod cell meudwy ganddo yng Nghroescynon, Maesyfed, ond mae’n bosib mai engrhaifft arall yw hyn o dybio cysegriad at sant o enw lle. Yn 1721 rhoir yr enw gan Browne Willis (‘Survey of Bangor’) fel S. Knonkell; efallai fod hyn yn dod o fersiwn ddryslyd o linach (Progenies Keredic’) Ceredig, brenin Ceredigion, c.1200; cynhwysa Cynidr Gell (Kenider Gell), ‘mab Kynon mab Keredig’. Ymddengys nad oes cysylltiad rhwng Cynidr a Cynon a Thregynon cyn cerdd Lewys Dwnn i David Lloyd Blayney, Uchel Siryf, 1577 lle cymheir David ag Elystan (gw. Trelystan), Cynan a Cynidr (Kynan Kenyd). Un o dair swydd neu ringylliaeth (gw. Swydd Eginlle) Cedewain a gofnodwyd fel comot Conan (am Cwmwd Cynon) 1584, oedd Tregynon.
"

Owner:
Richard Morgan
Crëwr:
Richard Morgan, A study of Montgomeryshire Place-Names, Gwasg Carreg Gwalch, 2001
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Copyright Details:
2001
Eitem wedi’i llwytho:
30/7/2015
Gwelediadau:
904
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment