Enwau Lleoedd Cymru: Trewern
Disgrifiadau
"Alretone 1086, T(re)fwern 1234, Alreton 1245, Orleton 1255, 1281, Allereton 1263, Olorton’, Oleretun 1271, Trewern’ 1287, Trewern 1310, 1344, 1568, Trefwern 1354, 1360, Treffwern 1421-2, Trewern alias Olarton c. 1558-70
Yr enw Saes. yw HSaes. alra, ll. gen. alor, + tun, ‘trefgordd y gwernydd’, i gyfateb â Chym. tref + gwern ‘gwernydd’ a ‘cors wernog’. Mae’n anodd iawn dweud pa enw yw’r hynaf gan mai Saes. yw’r rhan fwyaf o’n ffynonellau; mae llawer o enwau lleoedd yn yr ardal yn dwyn enwau Cymr. a Saes. e.e. Treberfedd (Middletown), yr Hôb (Hope). Ar lafar gwlad Saes. yr ardal ceir alor fel ooler, e.e. yn Hoola fielde alias Rowla Coom a Coom yr Rowla yn Nhrefaldwyn 1623. Camgysylltwyd Alretone 1086 yn hir â Chawres (Cause), Amwythig, safle castell mawr a chanolfan arglwyddiaeth a ymestynai i mewn i Sir Drefaldwyn mor bell ag afon Hafren.
"
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment