Ymfudo - John Edno Roberts
Disgrifiadau
Llwybrau bywyd; Storiâu am bobol ymfudodd o ardaloedd chwareli llechi yng Ngogledd Cymru.
Bardd ac awdur oedd John Edno Roberts, 1837-1917, cyfrannodd yn helaeth i gyhoeddiadau Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. Ymfudodd o Flaenau Ffestiniog i Fair Haven, Vermont yn 1858.
Ysgrifennodd y Dr. Roberts goffa amano, o'r 'Drych', Mehefin 1917.
MARWOLAETH JOHN EDNO ROBERTS, OSHKOSH, WIS.
Gan Dr. Joseph Roberts, Racine, Wis.
Bydd yn chwith gan lawer o ddarllenwyr y "Drych" ddeall fod Edno wedi huno Mehefin 3ydd. Ysgrifenodd lawer i'r "Drych" o gofiantau, o erthyglau ac o farddoniaeth, am yn agos i haner can mlynedd. Yr oedd yn ysgrifenydd manwl, cywir a naturiol canys yr oedd efe yn lienor da. Mor ychydig hyd yn nod o bregethwyr Cymreig, ac o weinidogion, sydd yn gallu ysgrifenu eu hiaith yn gywir. Ac y mae rhai a alwant eu hunain yn feirdd, yn meddu ffugenwau gyhyda'u breichiau, na allant hyd yn od sillafu yn gywir. Gwn yn dda fod Golygydd- ion y "Drych" yn cael gwaith mawr a phoenus i gywiro llawer o'r ysgrifau, a'r rhan fwyaf o honynt, a ymddangosant yn lan a difrychau ar wyneb y "Drych" bob wythnos. Ond yr oedd Edno yn gallu ysgrifennu yn gywir, ac atalnodi ei waith.
Yr oedd wedi dysgu gramadeg pan yn fachgen yn Tanygrisiau, Ffestiniog, G.C. Y pryd hwnw cedwid cyfarfodydd llenyddol yn mysg y chwarelwyr; cyfarfodydd y nos, mewn gwahanol ardaloedd yn 'Ffesiniog, yn y rhai y byddai yr ieuenctyd yn dysgu ysgrifenu, rhifyddu, dysgu gramadeg, &c. Bum yn mynychu y cyfarfodydd bendithiol hyny fy hun; ac yr oedd Edno pan yn fachgen wedi manteisio arnynt. Nis gwn yn mha le y dysgodd reolau barddoniaeth -y gynganedd gaeth, ond gwn ei fod yn cael ei ystyried gan ei gyfoedion yn dipyn o fardd y pryd hwnw. Yn y cyfnod hwnw telid tipyn o warogaeth i wr ieuanc a allai wneyd englyn cywir.
Nid wyf yn cofio fod yn Ffestiniog yn bardd a ddaeth yn adnabyddus i'r genedl pan yr oedd Edno yn fachgen ond Ionoron Glandwyryd, yr hwn a ymfudodd i'r wlad hon, efallai o'i flaen ef. Gwnaeth Ionoron ei gartref yn agos i Fair Haven, Vt., lle y gweithiai yn y chwarel yn nghyd a thrin tyddyn bychan. Yr oedd efe yn fardd rhagorol, a'i awen mor rwydd a naturiol ag anadliadau yr awelon, ac mor glws a'r pren afalau o dan o dan ei flodau. Ond yr oedd efe yn treulio llawer o'i oriau hamddenol i farddoni. Daeth lonoron yn fardd adnabyddus i'r genedl yn yr Hen Wlad ac yn y wlad hon. Ond ni threuliai Edno lawer o amser i farddoni. Gwnai y cwbl fel pleser iddo ei hun pan y teimlai gymelliad at hyny; eto gallai farddoni yn rhwydd, ac enillodd nifer o wobrau yn Eisteddfodau y wlad hon. Yr wyf yn gwneyd y sylw hwn am fod Edno a Ionoron wedi dod o'r un ardal yn yr Hen Wlad, wedi dod i'r wlad hon tua'r un amser, ac wedi bod yn gymydogion am lawer o flynyddoedd yn nghymydogaeth Fair Haven, Vt., a'r ddau yn chwarelwyr, yn llenorion ac yn feirdd.
Enw ei dad ydoedd John Roberts, yr hwn ydwyf yn ei gofio yn dda. Ganwyd Edno mewn ardal a elwir Rhiw-bach, sir Gaernarfon, Mawrth 4, 1837. Enw ar chwarel lechau ydyw Rhiw-bach, yr hon a orweddai yn ngwasgod y mynydd sydd rhwng Penmachno a Ffestiniog. Fel hyn, dechreuodd anadlu yn awyr y mynydd. Ar un llaw i Rhiwbach y mae mynydd y Gamell, a'i ben wedi ei orchuddio a grug, a llyn y Gamell, lle yr oedd cyflawnder o frithylliad, ac ar y llaw arall y Manod Mawr, a chymylau o niwl yn ymlusgo beunydd dros ei ben. Ond symudodd y teulu yn gynar ar ei oes i fyw i hen blwyf enwog Dolwyddelen. Y mae'n debyg mai wrth symud o Rhiwbach i Dolyddelen yr oedd Edno yn cario gogor yn ei ddwylaw, ac ar ochr y mynydd, neu ar allt y Gwyndy, collodd ei afael yn y gogor a phowliodd i lawr at droed y mynydd, ac yntau yn rhedeg ar ei ol mor gynted ag y gallai. Yn Dolwyddelen y treuliodd ddyddiau ei faboed, ond yn Ffestiniog y daethym i yn adnabyddus ag ef gyntaf, canys yr oedd ei rieni wedi symud eto, ac yn byw yn Tanygrisiau. Gweithiai efe a'i dad yn chwarel Holland. Bu efe a minau am flynyddoedd yn dringo y Llwybr Cam-llwybr oedd yn arwain igam ogam ar allt Glan y Pwll, i fyny i'r chwarel. Yr oedd yn rhaid i ddyn a llanc feddu lungs mor wydn a llwynog i allu dringo ar hyd y llwybr hwn bob boreu ond dydd Sul.
Y mae camrau ei fywyd ar ol iddo ddyfod yn llanc, ac yn ddyn mewn oed, fel y canlyn: Daeth i'r wlad hon pan yn ieuanc. Nid yw y flwyddyn genyf, ond yr wyf yn tybied iddo ddod yn 1858, pan yr ymsefydlodd yn mysg y chwarelwyr yn nghymdogaeth Fair Haven, Vt. Pa beth a fu'r cymelliad iddo ymfudo, nis gwn; ond os ymfudo o gwbl, peth naturiol oedd iddo dynu at y gymydogaeth uchod, canys yr oedd amrai o chwarelwyr Ffestiniog wedi ymsefydlu yno eisoes. Bu yn byw yn yr ardal hon am flynyddoedd yn troi y ceryg yn fara. Y gareg las, yr hon a elwir gan y daearegwr yn Cambrian Rock, am fod y corff mwyaf o honi i'w gael yn Nghymru, ydyw yr ail grawen yn nghrystyn y ddaear. Troi y grawen hen hon yn llechi i ddiddosi cartrefi dynion, ydoedd ei gelfyddyd ef pan yn ieuanc. Y mae y chwarelwr yn gelfyddydwr cywrain yn ei fyd ei hun. Ac os myn fod yn llwyddianus, rhaid iddo, megys saer a gof, ddysgu yr art pan yn ieuanc. Tra yn byw yn y gymydogaeth hon yr ymbriododd a Miss Ann Evans, boneddiges o Penrhyndeudraeth, yr hon oedd yn aros yn ninas New York ar y pryd. Cafodd ynddi hi ymgeledd gymwys. Ganwyd iddynt nifer o blant y rhai fuont feirw yn ieuanc oddi eithr un mab, sef Ellis Roberts, yr hwn sydd yn byw yn Oshkosh, Wis., er's blynyddoedd. Yn 1873 gwanhai ei iechyd, ac er y moddion meddygol nid oedd yn enill nerth, ac anogai y meddyg ef, Dic y Doctor, i newid awyr. Ac fel y dygwyddai fod, yr oedd John R. Thomas, y Bos, tad Mrs. R. Vaughan Griffith, Lime Springs, la., ac R. R. Williams, hen ohebydd doniol y "Drych" am flynyddoedd, yn hwylio i gychwyn i agor chwarel newydd yn L'Anse, Michigan, ac ymunodd yntau a hwy, a galwasant yn lle yn Arfon, lle yn nghanol y goedwig dew oedd yn faes helwriaeth i'r Indiaid, ac y mae'n parhau i fod felly hyd yr awr hon. Daeth ei briod a'i fab ar ei ol yn lled fuan, ond ni phrofodd y chwarel yn un dda, meddai R. R. Williams wrthyf, am ei bod yn rhy fan i wneyd llechi ohoni; yr oedd yn llawn o draed a ffefals, er fod yno ddigon o gorff o faen.
Bu raid i Edno a'i deulu symud oddi yno. Aethant i dreflan fechan, law weithfaol, a elwir Michigamme, Mich., a chafodd yno le fel peirianydd. Dyma'r chwarelwr wedi troi yn beirianydd; ond byr a fu ei dymor yno, oblegid daeth argyfwng 1877 i wasgu ar y dref. Penderfynodd fyned, efe a'i deulu, yn ol i Gymru. Gwnaeth ei gartref eto yn Tanygrisiau, Ffestiniog. Wedi iddo dario yno am dair blynedd a haner dechreuodd ei iechyd wanhau eto, fel y penderfynodd ddod yn ol i America, i wlad ag y mae ei hinsawdd yn sychach na Ffestiniog. Yr oedd yn anhawdd iawn gan ei fam ei weled yn cefnu ar ei hen gartref y tro hwn; eto boddlonai i hyny oherwydd sefyllfa ei iechyd, a dywedai fod yn well ganddi iddo fyw yn America na' marw yn yr Hen Wlad. Daeth ar ei union i ogledd Michigan yn 1881, a phrofodd y symudiad yn fendith i'w iechyd ef a'r teulu. Ac er ei fod mewn lle da, yr oedd ei hiraeth am y Cymry yn cryfhau, fel y penderfynodd symud oddi yno yn 1885 i ddinas Osh kosh, Wis., lle y mae eglwysi Cymreig, h. y., yn y ddinas a'r wlad.
Dyma gamrau ei fywyd ef oddiwrth y rhai y gwelwn ei fod yn dra symudol. Ond sefyllfa ei iechyd ef a fu yn achos o hyny. Yn Oshkosh hunodd ei briod yn 1905, er colled ddirfawr iddo ef. Diffoddodd marwolaeth ei briod ei awen i farddoni, ac ni welid ei ysgrifau yn y "Drych" megys cynt. 0 hyny allan bu fyw gyda'i fab, Ellis Roberts. Hyd y gwn, bu yn grefyddwr ffyddlawn ar hyd ei fywyd. Gyda'r Annibynwyr y magwyd ef, a chyda'r Annibynwyr y bu ar hyd ei oes oddieithr ychydig flynyddoedd yn Oshkosh, pan yr ymunodd ag eglwys y T. C. yn y ddinas. Bu yn ffyddlawn i'w broffes pa un bynag ai gyda'r Cymry a'i gyda'r Americaniaid. Ond Cristion Cymreig ydoedd, yn caru ei Waredwr, ac yn caru ei genedl. Yr oedd yn gyfaill cywir, yn hoffi ei gyfeillion, a'i gyfeillion yn ei hoffi yntau. Teimlai yn llesg ei iechyd trwy y gauaf diweddaf, ond dysgwyliai efe ac eraill y buasai yn cryfhau yn y gwanwyn. Ond fel arall y bu, Sabboth, Mehefin 3, teimlai yn boenus, a dywedodd y buasai yn hoffi cael croesi'r lein a myned at ei hen gyfeillion. Cafodd ei ddymuniad. Cyn diwedd y dydd hwnw yr oedd ei ysbryd yn Mharadwys, ac efe yn fab pedwar ugain mlwydd oed.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment