Skip to main content

Ymfudo - Eos Gwynant

Disgrifiadau

Llwybrau bywyd; Storiâu am bobol ymfudodd o ardaloedd chwareli llechi yng Ngogledd Cymru.

Bardd oedd Mr Owen R Williams, a'i new barddol oedd Eos Gwynant.
Ymfudodd am gyfnod i weithio yn chwarel lechi Granville yn America. Dychwelodd yn ôl i Gymru, gan bod gwaith yn brin yno, ac aeth i weithio yng nglofa Abercynon. Treiliodd gwarter canrif yn gweithio i Gwmni Trydan Cwm Dyli.

Ysgrifennodd y darn hwn yn Nhachwedd 1909, sy'n sôn am y diffyg gwaith yn chwarel lechi Granville, Efrog Newydd;

"Derbyniasom y llythyr canlynol o Granville, New York, oddiwrth y cyfaill adnabyddus Eos Gwynant a rhoddwn gyfle iddo siarad drosto ei hun.

Dywedais wrthych ei fod yn fflamio mynd yn myd y Chwareli. Ddrwg genyf
ddweud ei bod wedi cyfnewid, y rhôd wedi troi y cerig yn stokio. Nid oes modd cael diwrod o waith, yn hytrach troi i ffwrdd. 'Rwyf yn cael fy ngyhuddo a fy nwrdio am anfon i'r "RHEDEGYDD," gan fod pethau wedi newid.

Ni charwn weled neb yn dod yma, ac yn methu taro ar waith. Cynghorwn i drigolion Meirion, Arfon, a Mon, i beidio dod ar hyn o bryd i'r rhan yma or Wlad. A fyddwch mor garedig a hysbysu hyn rhagblaen, fel y gwelo bechgyn Granville fy mod yn glir a phawb a phobman. Cofion gorau attoch i gyd. O.R.W. (Eos Gwynant)"

'RWY'N COFIO.

'Rwy'n cofio Hafod Owen,
A minnau'n hogyn iach,
Yn rhedeg am yr ysgol,
A chario'r piser bach.

'Rwy'n cofio'r antur arall
Draw i'r Amerig bell,
Ond nid oedd gwyrthiau'r Ianci
A'i rodres nemor gwell.

'Rwy'n cofio'r bore dedwydd
Pan roddais eilwaith lam
I'r llong i groesir Werydd
Yn ol i aelwyd mam.

Mae hithau wedi cilio
O'r aelwyd erbyn hyn,
Yn dawel i noswylio
Tu hwnt i'r Terfyn Gwyn.

Rhown ffortiwn am fod eto
Yn hogyn heini, iach,
Yn rhedeg am yr ysgol
A chario'r piser bach.

Eos Gwynant
1944

Herald Gymraeg 10/07/1944

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Herald Gymraeg,
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
5/11/2024
Date originally created:
10/11/2024
Gwelediadau:
230
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment