Skip to main content

Talcen Mawr, Chwarel y Penrhyn

Disgrifiadau

Symud Ymaith y Talcen Mawr, Chwarel y Penrhyn
Erthygl; Y Genedl Gymreig 30/04/1895

I ymwelwyr y chwarel enwog y Penrhyn nid oedd yr un gwrthrych mwy dyddorol na'r Talcen Mawr. Darn anferth o graig ydoedd mewn man amlwg yn nghanol y chwarel, ac ymgodai i'r uchder o oddeutu 360 o droedfeddi, ond mewn canlyniad i effeithiau y tywydd yr oedd bob blwyddyn yn dyfod yn fwy peryglus i'r gweithwyr, ac felly teimlid mai angenrhaid oedd ei symud ymaith.

Dydd Sadwrn oedd y diwrnod a neilltuwyd i ddwyn hyn oddiamgylch, ac er rhoddi cyfleustra i'r cyhoedd weled "saethu" ar radda mor eang hysbyswyd trwy gyfrwng y newyddiaduron mai tri o'r gloch y prydnawn y byddai i'r tanio gymeryd lle. Yn ffortunus yr oedd y tywydd yn ffafriol, a dylifai pobol i'r ardal o gwahanol gyfeiriadau gyda'r trens a chyda cherbydau. Er sicrhau dyogelwch i'r edrychwyr yr oedd yn ofynol rhoddi mewn grym nifer o reolau arbenig, a detholwyd oddeutu cant o chwarewlyr ar wahan i nifer heddgeidwaid i edrych fod y cyfryw yn cael eu cario allan. Cyfarwyddid y bobl i'r Ponc Ceiling, yr oriel uchaf ond un yn y chwarel, ac er cael i'r fan hon yr oedd yn rhaid dringo oddeutu pedair o inclines, yr hyn oedd yn gryn lafurwaith. Yr oedd yr olygfa oddiar ben y bonc yn wir ardderchog. Islaw yr oedd y chwarel eang yn ymagor, ac yn canol safai yr hen Dalcen Mawr fel cawr talgryf, yr hwn ymhen ychydig amser fuasai yn cael ei gyfrif yn mhlith y pethau a fu. Drachefn, wrth edrych ymlaen i gyfeiriad y mor yr oedd y wlad yn ymddangos yn neilltuol o brydferth dan dywyniadau yr haul. Er difyru yr edrychwyr chwareuid detholiad o gerddoriaeth gan Seindorf y Penrhyn ar ben y bonc. Erbyn tri o'r gloch yr oedd y gwyddfodolion wedi cynyddu yn aruthrol, ac yn mysg eraill yn bresenol ar ben y bonc yr oedd Arglwydd Penrhyn a rhai o'r teulu, y Cyrnol Sackvile West, Mr E.A.Young, Maer Bangor, yr Anrhyd.F.G.Wynn a'r Anrhyd. C.H.Wynn. Yr oedd pawb yn awr yn edrych ymlaen yn ddyfal at daniad y fuse, yr hon a gyfrifid fuasai yn cymeryd ugain munyd o amser cyn cyraedd y pylor, ac oddeutu ugain munyd wedi tri gellid gweld tri o ddynion megys wiwer wrth y gorchwyl o danio y cyfry. Yna diangasant ymaith i le o ddiogelwch. Y tri hyn oeddynt Mr Pritchard, arolygydd y chwarel, a dau frawd o'r enw Davies. Canfyddid y fuse yn araf blygu, ac ar ol disgwyliad o chwarter awr aeth y waedd i fyny nad oedd ond pum' munyd yn ychwaneg.

Fodd bynag, oddeutu munyd yn ddiweddarach dyma ergyd megys swn taran, a gwelid yr hen binacl hardd yn ymchwyddo ac yn disgyn yn bentwr o falurion. Bu ei ddrylliad yn llwyr. Wedi hyn bu cynulliad pobloedd lawer i'r fan lle y safai y Talcen Mawr, a mawr oedd y syllu ar y modd effeithiol y gwnaeth y pylor ei waith....Defnyddiwyd 280 o farilau (pylor), pob baril yn cynwys 56 plys.
Pasiodd y cwbal heibio heb i'r un ddamwain gymeryd lle. Y mae "saethu" ar raddfa eangach wedi bod yn chwarelau y Penrhyn a Dinorwig o'r blaen, ond yn ddiau nid oedd yr un a greai gymaint o ddyddordeb a symudiad ymwaith y Talcen Mawr.

Erthygl Herald Cymraeg 30/04/1895

Y mae un chwedl fechan neillduol o deimladwy yn glyn a'r amgylchiadad,a cheir llawer o rai a broffesant fod yn llygad-dystion o'r digwyddiad. Dyma hi:

Tystia chwarelwyr y Cae fod aderyn neilltduol o rywogaeth lled fawr wedi bod yn nythu am flynyddoedd yn olynol ar uchaf gopa yr hen Dalcen, a'i fod wedi trwsio a dodrefnu nyth yno eto y gwanwyn hwn, a haera llawer ei fod yn ei nyth pan gymerodd y ffrwydriad le yn nghrombil y mynydd ddydd Sadwrn, ac eu bod yn gweled y creadur bach asgellog trą yn glynu hyd y foment olaf wrth ei gartref clyd yn suddo i lawr i'r dyfnderoedd gyda'r graig yng nghanol fflamau y pylor a thwrf echrysion yr ugeiniau o filoedd o dunelli o falurion-aeth i lawr, meddir, gan daenu ei aden gysgodol dros ei rai bach a glynu wrthynt hyd angau!

Erbyn i'r mwg a'r llwch glirio o'r gwaelodion gwelid fod Chwarel y Penrhyn yn edrych yn rhyfedd-fel pe wedi colli ei phrif gilddant. Bwriwyd i lawr 125,000 tunell o graig a dywed y lleiaf.

Baner ac Amserau Cymru
04/05/1895

Gadewid ef yn un cruglwyth anferth ar ganol y gwaith er's degau o flynyddoedd, trwy weithio y pongeiau oddi wrtho. Yr oedd ynddo bedair lefel, tray ba rai yr oedd ponceiau yn måned anser yn ol; ond cauwyd un o honynt gan ysbwriel o'r 'Talcen,' fel nad oedd goleu ond trwy dair ohonynt, fel y cyfeiria y bardd yn ei englyn. Dywedir ei fod dros gan llath o uchder a'i fod yn pwyso 125,000 o filoedd o dynelli, a bod yn ofynol cael saith dynell o bylor i'w daraw i lawr. Dyma fel y dywed y bardd rhagorol Dewi Gwallter am y 'Talcen.'

'Talcen Mawr,' enfawr Arfon-clau binacl
A'i ben i'r uchelion;
Deyrn o faint, cadarn ei fôn,
Gwel dri goleu drwy'i galon!

Owner:
Lle CHI Lle NI
Crëwr:
Delwedd Ffion Gwyn. Erthyglau papur newydd; Herald Cymraeg a'r Genedl Gymraeg, Baner ac Amserau Cymru
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
05/11/2024
Publisher Ref:
/
Eitem wedi’i llwytho:
31/10/2024
Date originally created:
5/11/2024
Gwelediadau:
463
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment