Skip to main content

Cabanau; Hanesion o gaban, chwareli llechi Gogledd Cymru.

Disgrifiadau

Helyntion Bywyd ChwarelwrDafydd OwenHerald 1907Cwt Injan Huw, Chwarel y banc.  Diwrnod annifyr iawn yw diwrnod gwlawog yn y chwarel, yn enwedig i'r dynion sydd yn gweithio ar y graig. Ychydig o waith a ellir ei wneyd, ac , fel rheol, treulia y gweithwyr eu hanner yn y cabanau, neu yng nghwt yr injan, y lle olaf yn gyffredin, gan ei fod yn gysurus. Un diwrnod mwy ystormus nag afrer yr oedd Cwt Injan Huw yn Chwarel y Banc yn llawn iawn. Oddiallan rhuai y gwynt yn gwynfanus, gan chwythu y gwlaw fel pe yn ei boeri i ddanedd y peiliau llechi ar y cei. Oddi-fewn yr oedd yn gysurus ddigon. Nid oedd cwt yn oleu iawn oherwydd nid oedd ond un ffenestr iddo, ac nid oedd Huw wedi glanhau hono ond unwaith yn ei oes, sef adeg ymweliad gwraig y pen stiwrad a’r chwarel, a chyda’i gap a oedd yn dduach na’r ffenestr, ac yn llawer mwy seimlyd, y gwnaeth yr adeg hono. Yn ymyl y drws eisteddai Robin Scolar. Yr oedd Robin yn gymeriad hollol ar ben ei hun. Fel y cyffredin o chwarelwyr, yr oedd yn ddigon tlawd a’i brif hobi fyddai pigo darnau o bapyrau newydd, a ddygai rhai o’r chwarelwyr am eu bwyd i'r chwarel, i fyny. Plygai hwy yn ofalus, ac yna darllenai bob gair a fyddai arnynt, gan ochneidio am na fyddai mwy i'w ddarllen. Dyna pam yr eisteddai wrth y drws bob amser. Nis gallai weled i ddarllen yn unlle arall.Yn ei ymyl, a’i drwyn bron ar ochr y ‘boilar’, eisteddai Sam Symol. Creadur rhynllyd iawn oedd Sam, a byddai yn sal bob amser bron. Wrth gwrs, byddai yn salach ambell waith. Pan fyddai yn sal iawn byddai yn ‘symol drybeilig’ a pan yn weddol sal ‘rhyw symol’ fyddai, a phan yn o lew byddai yn ‘symol’. Y diwrnod hwn yr oedd yn rhy brysur gyda darn o bapur du, yn cynnwys y ‘diweddaraf’ i wrando arno. Yn y gornel dywyllaf yn y cwt eisteddai, neu yn hytrach gorweddai, Hari Fawr. Creadur diog angyffredin oedd Hari, a byddai wrth ei fodd ar ddiwrnod gwlawog. Cysgai yn awr yn gysurus, er gwaethaf y chwain a oedd yn aflonyddu arno. Yn ei ymyl yr oedd Robat Ifan, un o’r dynion tlotaf a welais erioed. Yr oedd ef a Hari Fawr o’r golwg yn hollol, oherwydd yr oedd y boiler rhyngddynt a’r ffenestr. Dewisodd Robat y lle hwnnw am ei fod yn hwylusach iddo ef na’r un lle arall. Anaml iawn y byddai ganddo ef ginio priodol, oherwydd dynes sal iawn oedd Cadi ei wraig, ac nis gallai bobi mwy na Hindw. Nid oedd ar Robat eisieu i neb weled ei ginio gwael, ac felly dewisodd y gongl dywell. Ond gwyddem oll mai anaml iawn byddai ganddo fenyn ar ei fara gwydn. Mwy gwyddem na fyddai ganddo hyd yn oed fara ambell i waith. Onid oedd Dic Bach y Diafol un hanner dydd wedi ymlusgo ato yn ddiarwybod iddo, ac wedi ei glywed yn gwneyd awn bwyta a’i weled yn ysgwyd ei geg a dim ynddi, rhag i'w gyd-weithwyr ganfod sut yr oedd pethau yn bod? Oni wylodd Dic Bach yr adeg hono am ei waith gyntaf yn ei oes, ac oni fu yn gyfaill calon i Robat ar ol hynny? Yn ymyl Robat eisteddfa Wiliam Wilias y Fron. Yr oedd ef yn ddyn cefnog, a byddai ei ginio yn tynu dwfr o ddanedd y chwarelwyr ereill yn aml. Un o ddynion y caban oedd Wiliam hyd yn ddiweddar. Dynes dda iawn a glan oedd ei wraig ef, a byddai William mewn helbul yn aml am ddwyn chwain adref o gwt y boilar, ac felly y caban oedd ei le bwyta ef. Ond digwyddodd i Dic Bach y diafol son wrtho un diwrnod am Robat Ifan “yn ysgwyd ei geg a dim ynddi”, a daeth dagrau i lygaid Wiliam; hwyrach am fod dagrau yn llygaid Dic Bach. Beth bynag am hyny, canfu Margiad ei wraig yn mhen wythnos neu ddwy fod archwaeth ei phriod wedi gwella yn anghyffredin yn ddiweddar. Cynt yr oedd yn “fisi” iawn, ond yn awr ni fyddai yn foddlon os na fyddai ei dyn bwyd wedi ei lewni i'r ymylon. Canfu Margiad hefyd fod dillad yn maeddu yn nghynt lawer nag arfer, ond ni ofynodd yr un cwestiwn ar y pen hwnw, oherwydd pleser iddi hi oedd golchi dillad Wiliam. Ar be ei hun, ac yn uwch na neb arall. Eisteddai Huw y Dreifar. Nid oedd gan Huw ei neillduolion. Yr oedd ei wyneb gan ddued a’i gap, a’i gap gan ddued a’i wyneb, a’r ddau yn llawn duach na’r glo. Bost Huw oedd na olchodd ei wyneb erioed a’i unig gwyn oedd na fuasai wedi ei eni’n ddyn du yn lle ei wneud yn un. Wrth y drws y mae amryw ddynion yn siarad a’u gilydd. Fel rheol, hwy yw y chwarelwyr mwyaf cefnog, ac eisteddant wrth y drws a chyferbyn a’r ffenestr, am nad oes arnynt gywilydd i neb weld eu cinio. Bydd gan y rhan fwyaf ohonynt gig bob amser, a gofalant am ei dynu o’u tyniau yn gyntaf peth gan ei roi ar eu gliniau, er mwyn i bawb arall weled pa mor gefnog ydynt. Bydd gan y gweddill gaws “am fod yn well ganddynt gaws na chig”, meddent hwy, ond am nas gallant gael cig medd gwyr y biff. Yn awr, yr wyf wedi ceisio rhoi darlun goreu gallaf o wyr cwt yr injan, a cheisiaf adrodd eu helyntion. Gallaf ddweyd i ddechreu mai amser drwg iawn ydoedd, amser y gwasgu a’r cynilo, ac yr oedd cwmwl ar wynebau hyd yn oed gwyr y cig a’r caws. Yr oedd son ar led yn y chwarel fod Mr. Macdonald am dynu y cyflogau i lawr drwy y chwarel, ac eithrio ei gyflog ei hun, wrth gwrs. Pechod anfaddeuol a fyddai yn barod i'w wraig gadw dau geffyl yn lle un!

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Helyntion Bywyd Chwarelwr, Dafydd Owen, Herald 1907, Cwt Injan Huw, Chwarel y banc.
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
12/11/2024
Gwelediadau:
204
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment