Ymfudo - Ann Pritchard 1884-1987
Disgrifiadau
Llwybrau bywyd; Storiâu am bobol ymfudodd o ardaloedd chwareli llechi yng Ngogledd Cymru.
Ann Pritchard 1884-1987
Ganwyd Richard Pritchard (tad Annie) Awst 2, 1861. Gweithiai yn y chwarel ym Methesda gyda'i dad a'i frodyr. Priododd Elizabeth Ann Jones ar Ionawr 11, 1884, yng Nghapel Jerusalem, Bethesda, Gogledd Cymru. Bu iddynt dair merch: Ann E. Pritchard – ganwyd Tachwedd 17, 1887, Margaret Pritchard ganwyd Gorffennaf 10, 1887, a Sarah Jane Pritchard ganwyd Mehefin 4, 1895.
Pan oedd Ann yn ddigon hen i weithio, aeth i Lundain a chael swydd yn gweithio i Mrs. Gilbert - gwraig y dramodydd enwog Gilbert, o'r bartneriaeth Gilbert a Sullivan.
Yn ystod y streic yn y 1900au, gadawodd Richard ei deulu i hwylio i America. Hwyliodd o Lerpwl i Ganada, gan gyrraedd Canada tua Ionawr 1907. Cafodd swydd yn y mwyngloddiau Asbestos lle bu'n aros.
Gadawodd Ann ei swydd a theithio o Lerpwl i Ynys Ellis, Efrog Newydd, gan gyrraedd ar Hydref 5, 1909, gyda $50.00 yn ei phoced. Teithiodd i Poultney, Vermont i gwrdd â'i thad. Cafodd Richard swydd mewn chwarel yn Ne Poultney a chafodd Ann waith yng nghwmni Crysau 'Manhattan' yn Poultney. Cynilodd Ann a’i thad arian i’w anfon at weddill y teulu – fe gymerodd tua 5 mlynedd.
Cyfarfu Ann â dyn ifanc, ac roedden nhw’n bwriadu priodi, ond pan gafodd wybod ei bod hi’n feichiog fe adawodd hi – ganed mab Ann ar Fawrth 2, 1913.
Ar Fai 26, 1914, cychwynnodd Elizabeth Ann (Jones) Pritchard, Sarah Pritchard, Margaret Pritchard Edwards, ac Emrys i America – gan lanio Gorffennaf 26, 1914, ym mhorthladd Boston, Mass, yn South Street yn Poultney.
Cyfarfu Ann ag Edwin R. Jones trwy ei ffrind Julia Jones Lamphere. Priodwyd Ann ac Edwin ar 29 Mehefin, 1921, yn y tŷ ar South Street. Gafodd Ann ac Edwin dri o blant: Edwin Kenneth Jones, Elizabeth Ellen Jones, a Richard Robert Jones. Ymsefydlodd y teulu yn nhy'r teulu a brynwyd gan Edwin ar York Street yn Poultney, Vermont. Bu farw Ann yn 102 oed ar 26 Gorffennaf, 1987.
Ychwanegwyd enw Ann at y 'American Immigrant Wall of Honour', sy'n dathlu taith y mewnfudwyr. Mae'r wal wedi'i leoli wrth ymyl Amgueddfa Mewnfudo Genedlaethol yn Ynys Ellis, sy'n edrych dros Manhattan Isaf.
Mae'r esgidiau a wisgodd Ann ar ei thaith dramor yn amgueddfa Lechi Dyffryn Granville, Efrog Newydd, America.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment