Skip to main content

Cricieth - Hel at y Nadolig

Disgrifiadau

Cricieth - Hel at y Nadolig
Helynt fawr fyddai'r wythnos cyn y Nadolig pan oeddwn yn blentyn. Elai'r gwragedd oddi amgylch i gasglu blawd neu roddion eraill a dau gwd ganddynt, un at flawd ceirch, a’r llall at flawd haidd a chaent lond cwpan neu ddwy ym mhob fferm. Ond y diwrnod cyn y Nadolig fyddai'r diwrnod mawr. Ben bore, rhennid cig yn y Gwynfryn; yna oddi yno eled i Drefan am flawd, ac i Fryncir am gig. Ac ym Mryncir byddai'r helynt fwyaf, pobl y Garn a phobl Cricieth yn ymladd. Ar y groeslon arhosai'r cyntaf nes y deuai parti Cricieth. Yna wedi galw enwau drwg y naill ar llall dechreuent ymladd, nes weithiau y byddent wedi colli eu cardod, ac un ochr yn gorfod dianc fel byddin wedi ei
gorchfygu. Eithr yn aml iawn elai cwmni o fechgyn, morwyr o Gricieth, i fyny; a phan fyddai eu parti yn colli'r dydd neidient dros y clawdd, troent y fantol, a gorfyddid i bobl y Garn ddianc. Un tro nid oedd heddwch heb i mi gael mynd i ‘hel cardod’ gyda’r plant eraill. Ac o’r diwedd dywedwyd y cawn, a chefais fenthyg cas glustog i fynd. Yr oedd pob peth yn barod gennyf y noson cynt, ac euthum i’m gwely wedi rhoddi siars am gael fy ngalw pedwar o’r gloch y bore.
Yr oedd yn wyth o’r gloch pan ddeffrois, a’r ras wedi darfod. Ar bwy yr oedd y bai nis gwn. Mae’n debyg bod pawb yn deall ei gilydd, ac wedi cymryd y ffordd honno i’m trin. Nid oedd dim i’w wneud ond gwneud y gorau o’r gwaethaf. Yr oeddwn wedi penderfynu myned i ‘hel at y Nadolig,’ a hel a wnawn. Cefais hyd i ddau arall fel fy hun, a chychwynasom. Yr oeddem wedi colli'r cynhaeaf, ac felly nid oedd dim i’w wneud ond lloffa. Aethom i’r London (House), a chawsom ein tri bob o gannwyll ddimai, ac oddi yno i’r Rheithordy. Daeth yr hen ficer Richards atom, ac wedi gofyn pwy oeddem, ‘Mae gennych chwi fwy o gardod gartref i’w rhoi nhw i mi,’ meddai; ond rhoddodd owns o de i ni bob un, ac adref a ni gyda’r gardod. Erbyn i mi gyrraedd, pwy oedd yno ond Elen Cilygât yn cael cardod, a phan osodais fy nghannwyll a’m te ar y bwrdd, mor falch â’r un heliwr, awgrymodd fy mam mai'r peth gorau fuasai i mi eu rhoi i Elen, ac felly, dipyn yn erbyn y graen y bu. Erbyn hyn, mae'r hen arferiad wedi bron darfod yn yr hen ardal, ond gobeithio, er bod yr hen ffordd o’i ddangos wedi diflannu, nad yw ‘ewyllys da’ a charedigrwydd y Nadolig wedi cilio.

Y PERL
TUD.372-373
Cyf. IV rhif. 48 - Rhagfyr 1903
1 Ionawr 1903

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Ffion Gwyn - Robert D.Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
22/12/2022
Date originally created:
22/12/2022
Gwelediadau:
514
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment