Skip to main content

Cricieth – Cwffio ar y Maes.

Disgrifiadau

Cricieth – Cwffio ar y Maes.

Sefydlwyd Bwrdeistref Cricieth ym 1284. Roedd y siarter yn mynnu bod dau ddyn yn cael eu penodi, yn y Llys Gŵyl Mihangel blynyddol, yn feilïaid i oruchwylio cyfraith a threfn a rheoli “niwsansau” (ymddygiad gwrthgymdeithasol). Gan mai cymuned fechan dawel oedd Cricieth nid oedd hon yn sefyllfa feichus am y rhan fwyaf o'r flwyddyn; efallai casglu anifeiliaid roedd yn crwydro i'w rhoi yn y ffolt neu atgoffa'r trigolion i gadw eu tylciau moch a'u domennu lludw yn lân ac yn daclus. Roedd dyddiau ffair yn wahanol gan fod llawer o bobl yn dod i'r dref o bob rhan o'r ardal. Yn y canol oesoedd roedd y ffair wrth droed y castell ac i lawr i'r môr gyda gwerthiant anifeiliaid ar y Maes. Roedd tafarnau ar Stryd y Castell ac yn y sgwâr. Ar Ffordd Caernarfon roedd “Ty’n y Maes” a ddaeth yn ddiweddarach yn Westy’r Lion. Roedd llawer o gwrw a gwin yn cael eu hyfed a oedd yn aml yn arwain at ffraeo ac ymladd. Byddai'r beilïaid yn cloi'r troseddwyr gwaethaf yn y ffolt anifeiliaid. Ar ôl adeiladu'r Ffordd Dyrpeg, datblygodd busnesau a thafarndai ar hyd yr hyn a ddaeth y Stryd Fawr a symudodd canol y dref i'r fan hon. Roedd yna fwy o ffeiriau a marchnadoedd anifeiliaid nag sydd yna heddiw ac yn dilyn dyfodiad y rheilffordd yn 1867 daethpwyd â llawer mwy o anifeiliaid i mewn ac fe fynychodd pobl o bell. Byddai'r dref yn brysur iawn. Ymgasglodd y ffermwyr ar Bont Cwrt i drafod cnydau ac anifeiliaid, byddai bloeddiadau a galwadau’r masnachwyr, y rhai sy’n dweud ffortiwn a gweithredwyr lwc neu gemau siawns a miwsig gan yr organ stêm yn y ffair hwyl. Bob hyn a hyn byddai sipsiwn neu fasnachwr yn carlamu ei geffyl neu ei ferlyn i lawr y stryd i ddangos ei ffitrwydd. Byddai gweision fferm yn sefyll ar gorneli strydoedd yn disgwyl i gael eu llogi neu eu talu a chwarelwyr o Ffestiniog, morwyr o Borthmadog, newydd gael eu talu ar ôl mordaith gydag arian yn eu pocedi, pysgotwyr Criccieth a gwerin o gefn gwlad yn llenwi’r tafarndai. Er mawr siom i'r capeli a'r cymdeithasau dirwest, byddai yfed gormodol. Roedd hyn yn aml yn arwain at gamddealltwriaeth, sarhad, dadlau dros ferched a dim ond dangos eu hunan neu herio. Byddai tyrfa yn ymgasglu o amgylch y cwffiwr, gan eu calonogi. Gan fod esgidiau hoelion clincer neu glocsiau yn cael eu gwisgo weithiau byddai anafiadau difrifol. Gallai gwregysau lledr gyda byclau pres trwm achosi clwyfau difrifol. Sefydlwyd Cwnstabliaeth Sir Gaernarfon ym 1857 ac erbyn 1861 roedd gorsaf heddlu gyda chelloedd ar y Maes er mwyn gallu cloi’r troseddwyr gwaethaf i fyny. Parhaodd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn ymhell i gof byw. Cofiai Dafydd Glyn Williams, yn ystod y 1920au, “Roedd y sipsiwn bob amser yn arfer mynd i westy’r Lion am ddiod a byddai’n rhaid iddynt adael ar amser cau - sef 3 o’r gloch. Fel plant byddem yn aros y tu allan gan ei bod yn anochel y byddent yn dechrau ffraeo a chwffio â’i gilydd.” Diolch byth, mae'r ymladd yn awr, yn bennaf, yn rhywbeth o'r gorffennol. Digwyddiad bychan iawn yw’r ffair heddiw gyda dim ond synau’r ffair hwyl yn ein hatgoffa o sut oedd dyddiau Ffair Cricieth.

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Ffion Gwyn - Robert D.Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Trwydded Archif Greadigol Creative Archive License
Eitem wedi’i llwytho:
23/2/2022
Date originally created:
23/2/2022
Gwelediadau:
802
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment