YSBRYD Y BELEN TÂN
Disgrifiadau
Dyma stori gan Guto Roberts, Awdur, actor a storïwr, o Roslan ger Cricieth -
Roedd gan John Hugh Jones o’r Garn stori fel hyn ar ôl ei dad, Harri Jones, Brynmarch ger Ynys.
Y cof oedd am John Jones, Ysgubor Fawr ger Tai’r Efail sefyll un noson yn nrws beudy Ysgubor Fawr tra disgwyliai i’r fuwch ddod a llo, a gweld pelen o dân yn mynd ar hyd y ffordd i gyfeiriad Chwilog. Ymddangosodd drachefn, ac fel pe bai’n dod yn ei hol y tro hwn, a dod cyn agosed â chamfa oedd yn arwain am Dŷ’n Gors. Trodd y belen i ffurf dyn ar y gamfa; wedyn cododd ei het a chychwyn cerdded nes diflannu i gyfeiriad Tŷ’n Gors.
Roedd Ifan - mab William Williams Tŷ’n Gors - yn gweithio bryd hynny ar fferm yng Nghanada, ond ymhen ychydig ddyddiau daeth llythyr i’r teulu yn dweud ei fod wedi cael ei ladd wrth i’r ceffylau redeg.
FFYNHONNELL
Guto Roberts: Llyfryn Eifionydd
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment