Skip to main content

Margaret Parry (1843-1935). Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Margaret Bevan, a fu’n archwilio hanes Margaret Parry (1843-1935)

--

Margaret Parry, 10 Albert Street, Aberaeron

Ganed Margaret (Evans) yn ardal Talgarreg yn 1843. Dywedai iddi gerdded fel plentyn gyda'i mam i werthu wyau yn farchnad Aberteifi (tua 15 milltir i ffwrdd). Priododd â John Parry, gweithiwr ym melin wlân Aberaeron a gafodd gyfle i brynu'r felin pan symudodd y perchennog i'r Unol Daleithiau. Cawsant  chwech o blant  ond bu farw dau yn ifanc.

Roedd yn eglwyswraig a mynychai’r tair merch yr eglwys gyda hi ar y Sul, tra bo’i gŵr a’r bechgyn yn mynd i Peniel, Gapel yr Annibynwyr. Aeth un mab, Evan,* a’i chwaer Mary i Lundain; gweithiodd y mab arall, John Lewis, yn y felin a bu ei chwaer Nance* yn gweithio yn siop y felin ac yn y tŷ.

Pan symudodd Evan a’i wraig May* yn ôl o Lundain, treuliai’r ddau ŵyr, Hubert ac Eddie, lawer o amser gyda'u mam-gu. Wrth iddynt dyfu byddent yn darllen iddi’n gyson.  Dim ond wrth weld ei bod wedi  arwyddo'r ddeiseb gyda chroes, y daw yn glir ei bod yn gwneud hynny am ei bod yn anllythrennog. Roedd yn wraig addfwyn iawn, yn ôl y sôn, a   bu iddi fyw bywyd annibynnol nes iddi gwympo a thorri coes yn ei henaint. Bu farw yn 1935.

*Arwyddwyd y ddeiseb hefyd gan May a Nance. Datblygodd cyfeillgarwch clòs rhwng y tair.

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment