Ethel Elizabeth Poole. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod
Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.
Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Catrin Stevens.
--
Ethel Elizabeth Poole
I hyrwyddo casglu enwau ar Ddeiseb Heddwch 1923-24 penododd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ddau drefnydd: Mrs Hugh (Mary Ellen) Pritchard yn y gogledd a Cheredigion ac Ethel Elizabeth Poole i wasanaethu’r de a sir Fynwy. Talwyd honorariwm o £100 yr un iddynt. Erbyn mis Medi 1923 roedd Ethel yn cynnull cyfarfodydd cyhoeddus yn Abertawe, Caerdydd, Maesteg, Pontlottyn, Llanelli ac yn y blaen. Ynddynt byddai’n egluro natur y ddeiseb ac yn sefydlu Pwyllgorau Llywio lleol o fenywod dylanwadol i arwain y gwaith. Dwedai fod croeso i bob menyw dros 18 oed yng Nghymru arwyddo ond dylid darllen geiriad yr apêl i bob menyw cyn gofyn am ei llofnod. Wrth ddathlu llwyddiant taith America ym mis Mehefin 1924, honnodd Emily Matthews i’r mudiad fod yn ffodus iawn i sicrhau gwasanaeth egnïol y ddau drefnydd hyn, a ymgymerodd â’r gwaith, nid fel gwaith trefnu, ond fel cenhadaeth. Nhw oedd calon ac enaid y mudiad, meddai. Ganed Ethel yn Horfield, Bryste, ar 1 Hydref 1883 yn ferch i John George ac Annie Tyson. Cofnoda Cyfrifiad 1891 ei fod e’n filwr proffesiynol yn gwasanaethu ledled y byd ac roedd ei brodyr a’i chwiorydd hŷn wedi eu geni ym Malta, y Dwyrain Pell a Singapore. Erbyn 1901 roedd y tad wedi ymddeol a’r teulu’n byw yn Queen’s Hill, Casnewydd. Gwelwn fod Ethel yn ddisgybl athrawes mewn ysgol fwrdd ac ar 30 Gorffennaf 1904 priododd yr ysgolfeistr Perceval Poole yn Eglwys Sant Marc, gan fynd i fyw i Gilgant Sant Marc yn y dref. Erbyn 1911 roedd ganddynt ddau fab: Percy a Harry. Bu farw Ethel ar 29 Rhagfyr 1946 yn Ilford Essex. Yn arwyddocaol iawn hefyd roedd gan Ethel frawd iau o’r enw Percy Eldin Tyson, a laddwyd ar 8 Rhagfyr 1916 ar faes y gad yn Ffrainc. Roedd yn 26 mlwydd oed ac yn gwasanaethu gyda’r Gatrawd Gymreig. Mae wedi ei goffáu yn Thiepval er nad yw ei fedd wedi ei nodi eto. O gofio’r trasiedi personol hwn hawdd deall ymroddiad Ethel dros heddwch parhaol ar ôl cyflafan y Rhyfel Mawr.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment