Skip to main content

Sarah Emily Matthews. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Ffynhonnell allanol:

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Catrin Stevens.  

--

Sarah Emily Matthews

Wrth ddathlu gorchest Deiseb Heddwch 1923-24 rhaid cofio ymdrechion y trefnwyr lleol fu’n cerdded o dŷ i dy, o fferm i fferm ym mhob tywydd i gasglu’r llofnodion arni. Un ddynes a gyfrannodd lawer at y gwaith hwn oedd Emily Matthews (1875-1945), Trehinon, 35 Stryd Mona, Amlwch. Hi arweiniodd yr ymgyrch ar Ynys Môn a’i chyfrifoldeb hi oedd casglu’r deisebau ynghyd oddi yno i’w hanfon i swyddfa’r Undeb yng Nghaerdydd. I gynorthwyo yn y gwaith denwyd 52 o drefnwyr lleol i ganfasio pob plwyf yn drwyadl, a heddiw, wrth inni ddarllen y llofnodion ar y deisebau, gwelwn mor llwyddiannus fu’r gwaith. Mae disgrifiad Emily o’r ymateb yn heintus:

“Yn fy ardal i, daeth menyw ... a oedd wedi neilltuo dau ddiwrnod at y gwaith, â’i rhestr ataf gyda balchder mawr, gan ddweud ei bod wedi cael llofnod pob menyw yn ei hardal hi. Yn gynnar fore trannoeth, cyn mynd i’r gwaith, daeth i nôl y ffurflen, oherwydd yn ystod y nos roedd wedi cofio am ddynes arall a ddaethai’n ddiweddar i letya yn y fro ac nad oedd wedi ei gweld. Mewn ardal arall, cyfarfu menyw, yn byw mewn tŷ bychan llwm yn slymiau’r dref, ag un o’r canfaswyr a gofynnodd pryd fyddai hi’n galw, ei bod hi a’i chymydog wedi prynu potel o inc a phen yn barod!”

Merch John Matthews, rheolwr banc a Sarah merch Thomas Gee o Ddinbych ac ymgyrchydd dros ddirwest oedd Emily. Roedd hithau’n Ynad Heddwch, ac yn hynod o weithgar gyda phob math o fudiadau ar yr Ynys: Cymdeithas Nyrsio’r Sir, y Pwyllgor Addysg, Undeb Neuaddau a Chymdeithasau Pentrefol Môn a Sefydliad y Merched. Yn y tridegau gwasanaethai ar Bwyllgor Llywio Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru.

Priododd Emily Capten A. Stanley Davies yn 1935. Yn eironig, roedd e wedi bod yn recriwtio bechgyn sir Gaernarfon i’r fyddin yn ystod y Rhyfel Mawr, ond ymddengys iddo gael tröedigaeth oherwydd roedd yn cyd-fynychu cyfarfodydd yr UCCC / WLNU yn yr 1930au. Yng Nghofrestr 1939 noda Emily mai ‘gwaith cyhoeddus yn unig’ a wnâi (nid ‘gwaith domestig yn unig’ fel pob gwraig briod arall).

Dyma a enillodd iddi urdd M.B.E. Trigent yn Y Wenallt, Llandegfan a bu Emily farw yn 1945.

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment