Cicely a Nesta Warren. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod
Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.
Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Shelagh Fishlock
--
Cicely a Nesta Warren
Mae cydweithio’n gweithio!
Wrth drawsgrifio deiseb Conwy des i o hyd i enw anodd ei ddehongli yn nhŷ Cicely a Nesta Warren, Bryn Tirion. Rhoddais gwestiwn ar dudalen Facebook, ond doedd neb yn gallu ffeindio’r trydydd enw. Ond roedd Cicely a Nesta ar y cyfrifiad 1921,(enw’r tŷ yna oedd “Briwlimon!” a gwaith Nesta oedd “photographic artist.” Wedi bach o drafod am natur y gwaith, gwnaeth rhywun arall ymchwil ar y We, a darganfod Lluniau Nesta Warren ar werth mewn ocsiwn yn 2021. Roedd hi’n ddarlunydd poblogaidd ar ddechau’r ugeinfed ganrif, a merch Warren Williams a oedd yn ddarlunydd llwyddiannus hefyd. Mae nifer o luniau (golygfeydd Conwy a Môn a phortreadau) i’w weld ar y We.
Working together - this is an example of how the Peace Petition Face book Group works together and sometimes makes interesting discoveries about the women who signed the Appeal.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment