Skip to main content

Mary Ellen Pritchard. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Ffynhonnell allanol:

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Catrin Stevens.  

---

Mary Ellen Pritchard

I hyrwyddo casglu enwau ar Ddeiseb Heddwch 1923-24 penododd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd ddau drefnydd: Mrs Hugh/Huw (Mary Ellen) Pritchard yn y gogledd a Cheredigion ac Ethel Elizabeth Poole i wasanaethu’r de a sir Fynwy. Talwyd honorariwm o £100 yr un iddynt.

Ymddengys i Mary Ellen gael ei chyfweld gan Gwilym Davies ac eraill cyn ei phenodi. Roedd hi’n un o drefnwyr tref Pwllheli hefyd. Taflodd ei hun i mewn i’r gwaith gydag arddeliad ac argyhoeddiad. Erbyn diwedd Hydref 1923 gallai dystio mewn cyfarfod yn Nhreffynnon ei bod wedi cael croeso brwd mewn 25 o gyfarfodydd lleol tebyg. Pan ofynnwyd iddi pam y dylai menywod lofnodi, atebodd mai galwad gan Dduw ydoedd. Credai eu bod yn agor pennod newydd yn hanes y byd, a phan fyddent yn edrych yn ôl arni, y byddent i gyd yn falch ohoni. Gyda’r fath argyhoeddiad does ryfedd iddi gael ei chlodfori mewn erthygl yn Chwefror 1924 am ei hamynedd, ei dyfalbarhad, a’i pherswâd ynghyd â’i brwdfrydedd heintus a’i hoptimistiaeth hudolus wrth hyrwyddo’r ddesieb.

Ganwyd Mary Ellen yn 1876, yn ferch i William ac Elizabeth Jones, Gwesty Dirwestol yr Eifl, Pwllheli. Gwnaeth enw iddi ei hun yn organyddes Capel Salem a chantores; yn ddirwestwraig, yn Fethodist Calfinaidd ac yn aelod o Gymdeithas Ryddfrydol y Menywod. Yn 1906 priododd y cyfreithiwr Hugh Pritchard, a byw ym Mount Pleasant yn y dref a ganwyd eu merch Menna. Adeg y rhyfel gweithiodd yn ddiarbed dros Gymdeithas y Morwyr a’r Milwyr, y Pwyllgor Pensiynau a chymdeithas Undeb Neuaddau Pentrefol y rhanbarth, ac yn sgil hyn urddwyd hi â’r M.B.E. yn 1918. Ond bu Hugh Pritchard farw’n 41 oed yn 1920. Bedair blynedd wedyn ail-briododd y Parchedig John Lloyd Jones, gweinidog gyda’r Presbyteriaid a bu’n byw yng Nghricieth a Chaernarfon. Yno, bu’n actio rhan y Frenhines Victoria mewn pasiant yng nghapel Moreia,

Caernarfon yn 1958-59.

Parhaodd ei hymlyniad dros heddwch ar hyd y blynyddoedd. Roedd yn ffigwr allweddol ym Mhererindod Heddwch fawr ‘Hedd nid Cledd’ 1926, gan fel un o Siaradwyr swyddogol y

Bererindod a chan areithio yn huawdl yn y Gymraeg yn y cyfarfodydd yng Nghaernarfon, Conwy (lle rhoddodd ‘araith ysbrydoledig ... a wnaeth argraff ddofn’) a Bae Colwyn. Teithiodd gyda’r pererinion i Lundain a hi oedd yn cario baner Gogledd Cymru yn yr orymdaith i Hyde Park. Yno areithiodd gyda Mary Silyn Roberts yn Gymraeg. Gwasanaethodd ar Bwyllgor Ymgynghorol y Menywod Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn y tridegau.

Cofiwn am ei hargyhoeddiad a’i hymroddiad.

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment