Skip to main content

Nance Parry (1881-1969). Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Margaret Bevan, a fu’n archwilio hanes Nance Parry (1881-1969).

--

Nance Parry, 10 Albert Street, Aberaeron Ganed Nance (Anne) yn Aberaeron yn 1881, yn un o chwe phlentyn John a Margaret Parry*. Treuliai’i holl fywyd yng nghartref y teulu yn 12 Albert Street, gan fyw yno gyda’i brawd John Lewis ar ôl i’w rhieni farw. Yn wraig ifanc teithiai weithiau i Lundain i helpu’i brawd Evan* yn ei laethdy nes iddo briodi yn 1914 ac felly cael help ei wraig yn ei lle. Fel arall,  helpai’i mam yn siop melin gwlân y teulu.

Dilynai gyrsiau a drefnwyd gan yr Ysgol Frenhinol Gwaith Nodwydd ac roedd yn feistres ar y grefft, gan feirniadu mewn eisteddfodau lleol. Dioddefodd fân broblemau iechyd  trwy gydol ei hoes ond roedd yn 87 oed pan fu farw yn 1969.  

*Arwyddwyd y ddeiseb hefyd gan ei mam a gan wraig Evan, May. Datblygodd cyfeillgarwch agos rhwng y tair.

 

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment