Skip to main content

May Parry (1884-1974). Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Margaret Bevan, a fu’n archwilio hanes May Parry (1884-1974).

-- May Parry, 10 Alban Square, Aberaeron

Ganed May (Mary Jane) ym Merthyr, 1884. yr unig ferch allan o wyth plentyn i Daniel a Jane Thomas. Pan aned hi, roedd ei thad yn  fragwr ond yn fuan symudodd y rhieni yn ôl i'w sir enedigol, sir Gaerfyrddin, i ffermio a chafodd May blentyndod hapus ar fferm Brynbanc, Talacharn.

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llanddowror ac wedyn yn helpu ar y fferm cyn dysgu gwneud hetiau yn Cloth Hall yn nhre Caerfyrddin. Bu'n gwneud hetiau wedyn mewn siop yn Nhreharris cyn symud i Lundain i helpu'i braw,d a gadwai laethdy yno. Trwyddo ef cwrddodd a'i gŵr Evan Parry a oedd â busnes llaeth yn Kensington. Yn 1921 symudodd y teulu yn ôl i dref enedigol ei gŵr, Aberaeron, gyda'r ddau fab (Hubert 7 blwydd oed a Eddie 3 blwydd oed). Yno buddsoddodd Evan ym melin wlân y teulu.

Bu May yn cadw tŷ ac yn helpu ei mam yng nghyfraith, Margaret,* a’i chwaer yn nghyfraith, Nance,*yn siop y felin yn 12, Albert Street. Codwyd hi'n Fedyddwraig ond yn Aberaeron mynychai hefyd gapel ei gwr, Capel Annibynnol Peniel. Roedd yn grefyddol iawn – yn darllen y Beibl bob nos -  ac  yn ddirwestwraig, er ei bod yn gwneud gwin cartref.

Roedd hefyd yn hoff iawn o adrodd straeon, yn arbennig yn hwyrach yn ei bywyd i'r pum wŷr. Doedd hi ddim yn rhugl yn y Gymraeg, a oedd yn rhwystr iddi gymysgu'n hawdd yn Aberaeron yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Pan gaeodd y felin ar ddechrau'r 50au, prynodd y meibion fusnesau yn y dref a bu May yn byw mewn stafell uwchben y siop losins (McGowans erbyn hyn) nes iddi farw yn 1972.

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment