Claudia, Elizabeth a Mary Davies. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod
Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.
Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Angharad Tomos, a fu’n archwilio hanes chwiorydd ei hen nain, Claudia, Elizabeth a Mary Davies.
--
Yn bocs 13, dois ar draws 3 chwaer i fy hen nain o 79 High St, Pwllheli (siop Ironmongers). Claudia, Mary ac Elizabeth Davies (roedd 5 chwaer i gyd). Byddent wedi priodi erbyn 1923, ond diddorol iddynt ddefnyddio eu henwau cyn priodi, a rhoi 79 fel eu cyfeiriad.
Mary Catherine oedd yr hynaf, ganed yn 1861, a chafodd ei hanfon i ysgol yn Bury i gael ei haddysg. Wnaeth hi ddim priodi. Mae llun y siop ar ddiwedd y lluniau hyn, ond mae Mary wedi rwbio ei hun o’r llun, roedd ganddi ‘facial paralysis’.
Claudia Annie oedd merch rhif 4 ac mae llun ohoni hi efo Mary. Fe’i ganed yn 1870. Cafodd addysg yn Llundain. Priododd y Capten David Seaborn Davies a chawsant fab, Dewi Seaborne Davies. Daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl a bu’n aelod seneddol Rhyddfrydol am 4 mis wedi Lloyd George.
Elizabeth Grace Davies yw’r olaf (y llun ar ei phen ei hun). Fe’i ganed yn 1882 a chafodd addysg yn Stafford. Priododd gyfreithiwr - arhosodd y dair ym Mhwllheli.
Symudodd fy hen nain i Fethesda, a bu farw yn 1915.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment