Mary Jane Williams (1853 – 1925). Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod
Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.
Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Angharad Tomos, a fu’n archwilio hanes Mary Jane Williams.
--
Beth yw’r is-deitl ar gyfer eich llun?
Yr unig lun sydd gen i o Margaret Jane Williams pan oedd tua 7 oed yn 1860
Stori pwy wnaethoch chi ddewis archwilio/rhannu?
Mary Jane Williams (1853 – 1925) Llofnod yn Bocs 29. Ffeil 52. Papur 1
Beth yw eich perthynas gyda’r person yma?
Fy hen nain, nain fy nhad – o ochr ei fam
O ble roedden nhw yn dod?
Bwlchgwyn a symud i New Broughton
Beth oedd eu hamgylchiadau byw a theulu yn 1923?
Roedd yn 70 oed, 2 flynedd cyn ei marw
Sut oedden nhw yn ennill bywoliaeth?
Ganed fy hen nain yn 1853 ym Mhlas Alltgymbyd, Llanarmon yn Iâl, i deulu cefnog, ond rhedodd i ffwrdd efo'r gwas a hithau yn feichiog, gan briodi yn Ffair Gaer (dim cofnod o'r briodas). Mae cofnod o'i gŵr – John Wms (1849-1897) fel lead miner, a fu farw yn 48 oed. Cafodd 12 o blant. Tri mis cyn marw ei gwr, cafodd fabi a fu farw yn 5 mis oed. Byw gyda ei merched yn New Broughton (Gwynfa, Gatewen Rd) wnaeth wedi i'w mab (Wil) fynd i weithio yn y pwll glo. Bu farw ar Mynydd Minera rhyw noson, roedd yn dioddef o iselder. Bu fy nain (chwaer Wil) am ugain mlynedd yn Ysbyty Dinbych hefyd.
Ydych chi’n gwybod beth wnaethon nhw ar ôl 1923-24?
Bu farw yn 72 oed yn 1925
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment