Gladys Williams (1896-1990). Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod
Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.
Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Angharad Tomos, a fu’n archwilio hanes chwaer ei nain, Gladys Williams (1896-1990)
--
Dyma'r enw cyntaf i mi ei adnabod tra'n chwilio drwy'r Ddeiseb, ac yr oedd yn annisgwyl braidd. Chwaer fy nain ydoedd, ond doedd hi ddim mor wleidyddol â Nain.
Fe'i ganed ar Ebrill 6ed, 1896, y drydedd o bedwar o blant. Ganed fy Nain (Grace) ym 1892, yna William Henry ym 1894, a Harry Iorwerth ym 1902 (er iddo farw yn 3 oed o diptheria). Plant Hanna Laura o Bwllheli a Griffith Henry Williams o Fethesda oeddent.
Rheolwr Banc ym Methesda oedd eu tad, ac roeddent yn byw uwchben y banc yn 84 High Street, Bethesda. Cafodd Gladys addysg yn Lowther College, Rhuddlan. Graddiodd ei chwaer ym Mhrifysgol Bangor.
Amgylchiadau'r teulu erbyn 1923 oedd fod mam Gladys (Hannah Laura) wedi marw yn sydyn pan oedd Gladys yn 19 (wedi ymweliad â'r deintydd). Lladdwyd William yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917 yn 23 oed yn Gaza a'i gladdu yn Beersheba. Priododd Grace ym 1920, felly dim ond Gladys (yn 27 oed) a'i thad (60 oed) oedd ar ôl. Bu Gladys yn canlyn gŵr, ond bu farw. Felly wedi i'w thad ymddeol a mynd i fyw i Landudno, gofalu amdano fo wnaeth Gladys, ac ni chafodd ei chyflogi yn unman. Wedi marw ei thad yn 1928, bu Gladys yn byw am gyfnod yn Llandudno, ond dychwelodd i Fethesda i fyw.
Mae wedi arwyddo'r ddeiseb heddwch. Diau fod colli ei brawd yn y Rhyfel wedi bod yn gymhelliad i arwyddo. Teulu Rhyddfrydol oeddent. Gwirfoddoli i fynd i ymladd ym Medi 1914 wnaeth ei brawd. Pan oedd wedi mynd yn fusgrell iawn yn ei 90au, daeth Gladys (neu Bodo) fel yr oeddem yn ei galw i fyw atom yn y 1980au, cyn mynd i gartref. Hi yw testun nofel a ysgrifennais ym 1991, sef 'Si Hei Lwli' a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, sgwennais nofel 'Rhagom' yn seiliedig ar ei brawd, William Henry.
O ran ei theimladau hi heddiw, dwi'n siwr y byddai'n dychryn o glywed eu bod yn dal i ymladd yn Gaza, a bod rhyfel yn yr Wcrain, wedi i'w brawd gael ei aberthu yn 'y rhyfel i ddiweddu bob rhyfel'.
Fe'i claddwyd yn hen fynwent Deneio ym Mhwllheli efo ei rhieni, a'i brawd bach.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment