Skip to main content

Edith ac Ada Lewis. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Enid Lewis, a fu’n archwilio hanes ei hen nain a’i hen fodryb, Edith ac Ada Lewis.

--  

Deiseb Glyn Nedd 33/137  

Dyma fy hen famgu a fy hen Anti Edith ac Ada Lewis oedd yn byw yn Edward Street, Glynnedd. Roedd Edith yn 56 ac Ada yn 25 yn 1923. Roedd y ddwy yn gerddorol ac yn aelodau ffyddlon o Gapel Addoldy Glynnedd. Edith yn y côr ac Ada (Llinos Nedd) yn unawdydd soprano ac yn enwog yn lleol. Priododd Edith yn 1891 yn 24 a magu 4 o blant. Roedd gwr Edith yn gyrru’r trên yn y gwaith glo yn Aberpergwm. Ymfudodd Edith a Josiah i America gyda’r teulu yn 1907 ond bu’n rhaid dod yn ôl o fewn y flwyddyn gan i Josiah fynd yn sâl a bu farw yn 1909.  

Priododd Ada yn 1931 yn 33. Roedd gwr Ada hefyd yn y gwaith glo a’n aelod o Brigâd Achub Glofa Rock. Cyn priodi cafodd Ada gynnig mynd i’r West End yn Llundain fel cantores ond nid oedd ei Mam yn meddwl fod hynny yn briodol! Er hynny oedd ganddi eirda gan Wynford Vaughan Thomas.

Roedd gaeaf 1923 yn aeaf trist iawn i Edith ac Ada, gan i Jennie chwaer Ada farw yn Hydref 1923 yn 26 oed. Jennie hefyd yn hoffi a’n rhan o ddigwyddiadau cerddorol.

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment