Skip to main content

Stori teulu MacDonald. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Ffynhonnell allanol:

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Camwy, Meleri a Geraint MacDonald, yn ymwneud â dau aelod o'u teulu - Margaret Roberts 1881-1966 a Catherine MacDonald 1848-1937. Erthygl a ymddangosodd yn Yr Angor (papur bro Aberystwyth) Rhifyn Chwefror 2024. Mae’r teulu wedi rhoi caniatâd i rannu gyda’r Prosiect a’i roi ar safle we WCIA a Casgliad y Werin Cymru

 

Stori Teulu McDonald 

Siarad yr ydym fel Merched Cymru – plant i genedl na fynn gadw dig.... Hiraethwn am y bore pan na throir at y cleddyf am ddedfryd yn helyntion y cenhedloedd...Mae’r dyfodol yn llawn gobaith os y gwnawn ni, ferched y genhedlaeth hon ein rhan.

Mae’r Apêl yn ffrwyth ymgyrch trwy Gymru dros heddwch yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Arwyddwyd y ddeiseb gan bron i 400,000 o fenywod Cymru, a chredir ei bod yn 7 milltir o hyd. Cludwyd hi i’r UDA mewn cist dderw gan Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas, cyn ei chyflwyno i fenywod America. Gallwch ddarllen yr hanes rhyfeddol yn y gyfrol ddwyieithog, Yr Apêl, a olygwyd gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers.

Mae galwad nawr am wirfoddolwyr i gynorthwyo staff y Llyfrgell Genedlaethol i drawsgrifio’r ddeiseb fel adnodd anhygoel i’r dyfodol.

Ymhlith y llofnodion, rydym wedi bod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i ddwy aelod o’n teulu.

Margaret Roberts 1881-1966 (ein hen fam-gu ar ochr Mam).

Ganwyd Margaret yn Tynewydd, Ffair Rhos. Bu’r teulu yn byw am gyfnod yn Brynwyndham Terrace, Treherbert. Erbyn 1901, pan oedd Margaret yn 20 oed roedd yn gweithio fel morwyn i’w modryb yn Pencreigiau, Pontrhydfendigaid. Yn 1910, priododd â John Roberts, bachgen o’r Bont oedd yn gweithio yng nghymoedd y de fel glöwr.

Pan lofnododd hi’r ddeiseb yn 1923, a hithau’n 42 oed, cyfeiriad Margaret Roberts oedd Llwyn Onn, Pontrhydfendigaid. Roedd ganddi dair o ferched bach – Anti Winnie (Bronceiro), May (Mam-gu) ac Anti Mag. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i’r Tŷ Capel gerllaw – ac mae pawb yn cofio am Mam-gu fel ‘May Tŷ Capel’.

Catherine MacDonald 1848-1937 (ein hen, hen fam-gu ar ochr Dad).

Roedd Catherine yn dod o fferm y Garth, ger Capel Curig. Yn 1877, priododd â Donald MacDonald, Albanwr o Perthshire oedd wedi symud i ardal Bethesda i weithio fel bugail. Roedd tri mab ganddynt, sef Owen (neu Ewen, ein hen daid), Angus a Robert (a fu farw yn 10 oed). Bu Donald, Owen ac Angus yn gweithio yn chwarel y Penrhyn, ynghyd â thad a brawd Catherine. Roedd eu bywydau yn galed, a bu Owen ac Angus ar streic sawl gwaith, gan gynnwys Streic Fawr 1900-1903.

Priododd Owen â Nest Cynrig Roberts yn 1900. Roedd Nest yn ferch i Edwin Cynrig Roberts, un o arloeswyr cyntaf y Wladfa, Patagonia. Roedd Edwin wedi dod â’i deulu yn ôl i Gymru i sefydlu cwmni mwyngloddio, ar ôl dod o hyd i aur yn yr Andes. Dychwelodd Nest gydag Owen i’r Wladfa ar long yr Orita yn 1906. Arhosodd Angus i ofalu am ei fam, a pan ddaeth y Rhyfel Mawr gorfod iddo ymddangos gerbron y Tribiwnlys i ddadlau ei achos rhag cael ei gonsgriptio. Mae’n bosibl iawn fod hyn wedi pwyso ar feddwl Catherine pan lofnododd y ddeiseb.

Roedd Catherine yn 75 oed pan lofnododd y ddeiseb. Roedd yn byw yn 7, Well Street, Gerlan, Llanllechid. Arwyddodd y ddeiseb drwy roi croes, yn hytrach na’i henw, sy’n awgrymu nad oedd yn gallu ysgrifennu.

Mae’n anhygoel gweld enwau’r ddwy ar y ddeiseb. Dwy o wahanol ardaloedd o Gymru, heb adnabod ei gilydd a heb unrhyw syniad y byddai eu teuluoedd yn clymu ynghyd yn y pen draw. Ond y ddwy yn rhannu’r un ofnau, yr un pryderon a'r un gobaith am ddyfodol gwell. Rydym yn ymfalchïo y bydd eu henwau yn cael eu cofnodi am byth, fel rhan o’r hanes anhygoel hwn.

 

Camwy, Meleri a Geraint MacDonald

 

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment