Skip to main content

Ymfudo - Ann Jones

Disgrifiadau

ER COF AM FY MAM
gan ei mab Ellis (Idris o’r Llwyn)
Y DRYCH, 15/03/1917

Ar gais rhai o’m hen gyfeillion yr wyf yn anfon darlun o’m hen fam i’w roi ar wyneb y ‘Drych,’ newyddiadur yr oedd yn dra hoff o hono. Yr oedd yn pawb bron o ardal Llwyngwril, plwyf Celynin, Meirionydd, yn gydnabyddus a theulu
Ty Rallt, sef tad a mam a saith o blant, a’r rhai hyny yn wynion a glan. Cymeriad tawel, siriol, a llawn o gydymdeimlad oedd hi. Gan fod Ty Rallt ar ochr ffordd y rheilffordd a thipyn o’r neilldu, cymerai llawer crwydryn fantais i alw mewn am damaid wrth basio, ac ni throwyd un yn ol. Gweuodd ganoedd o barau o hosanau, ac yr oedd wrth ei bodd pan y byddai hosan yn ei llaw, byddai ei bysedd yn mynd tra yn ei chwsg.

Ganwyd hi mewn bwthyn bach gerllaw Arthog, o’r enw Tai’r Cynauaf, pa un sydd heddyw wedi cael eu gladdu o dan chwarel fawr Tynycoed. Symudodd y teulu i dyddyn Fridd Goedal, ar ochr y mynydd wrth droed Cader Idris, ac yno
y treuliodd foreu ei hoes. Yn y flwyddyn 1846, ymbriododd efo llanc ieuanc o ardal dawel Talyllyn. Yr oedd fy nhad yn dal swydd o arolygwrar y Cambrian Railway, ar ran o’r ffordd ger y Friog, ac iddo ef yr adeiladwyd Ty y Rallt ar glogwyn y graig, o’r man a’r lle yr oedd y golygfeydd mwyaf prydferth a rhamantus yn y wlad.

Collodd ei gwr a 4 o blant, Ymfudodd i America i fyw hefo’i mherch, yn Ipswitch, South Dekota. Gorffwys yn mynwent Oak Wood, Chicago.

Bu farw fy mam,
Y wraig ora’ yn y byd,
Bu yn canu, bu yn wylo,
Wrth erchwyn fy nghryd;
Ei thaith fu’n grwydredig
Ond ei ffydd oedd yn gref,
Boddlonodd ar ychydig
Caiff fwy yn y Nef;
O! caiff fwy yn y Nef.

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Y DRYCH, 15/03/1917
Gwybodaeth drwydded
Y DRYCH, 15/03/1917
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
24/11/2024
Date originally created:
24/11/2024
Gwelediadau:
181
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment