Skip to main content

Ymfudo - William R Hughes

Disgrifiadau

Llwybrau bywyd; Storiâu am bobol ymfudodd o ardaloedd chwareli llechi yng Ngogledd Cymru.

Erthygl papur newydd a ysgrifennwyd gan Janice Edwards, The Welsh Connection;

'Adroddiad heb ei ddyddio gan y diweddar William Hughes, Fair Haven Vermont.
Y daith i Slate Valley, 1853

“Cychwynnodd fy nheulu gyda phump ohonom yn blant, o Gae Clyd, Blaenau
Ffestiniog, yn gynnar yn Ebrill 1853, mewn trol o eiddo Shon Ifan, Congl-y-wal,
Certmon, gŵr mawr, dall, tad y diweddar Evan J. Evans a thaid Mrs. Annie Bolger.
Roedd y glaw yn arllwys i lawr yn ‘Stiniog y bore hwnnw. Byddwn wedi bod yn
falch o droi yn ôl i dŷ fy nhaid a nain, ond nid dyna oedd y cynllun. Cludwyd ein
heiddo a’n bwyd (casgen o fara ceirch, penwaig, menyn a chaws oedd wedi ei
baratoi ar gyfer y daith gan ein cymdogion) trwy Fangor i Bortmadog. Rwy'n
cofio croesi Porthaethwy i Lerpwl ar gwch fferi, yn fudr ac yn drewi. Ac o fod
yn rhy feiddgar ac ymholgar yn nghanol rhyfeddodau a golygfeydd
anghyffredin, daeth rhyw gynnwrf o bwll fy stumog........

Yr oedd pump neu chwech o fechgyn yr un oed a dau ohonynt yn Saeson, a
phob un ohonynt yn llawn bywyd a direidi. Yr oedd fy ewythr, yr Hen Syr, yn
warcheidwad i ni, yn ddyn bywiog a thymer dda. Roedd fel beili, yn ein dilyn ni
drwy'r dydd. Cafodd lawer o bleser a galar gan y warchodlu, oblegid yn aml
byddai yn angenrheidiol iddo sefyll rhyngom ni a'n cwynwyr. Roeddem yn
gyfarwydd â'r llong a'r morwyr yr oeddem yn eu cwmni bron bob dydd, yn bwyta
tac caled a siwgr brown. Yr oedd yn bleser mawr genym gymeryd cynffon y rhaff
gyda hwynt wrth godi yr hwyliau, yr oeddym mor gartrefol a phe buasem wedi
ein geni yno, a phan oedd y tonnau anferth yn taflu a threiglo yr hen long, a
ambell dro, moroedd yn tori drosto, yr oeddem mor ddisymud a di-ofn a phe
baem yn nolydd ein nain. Nid oedd dim yn tarfu ar ein chwarae ac eithrio'r angen
i fwyta neu gysgu."

Owner:
Lle CHI Lle NI
Crëwr:
Lle CHI LleNI
Gwybodaeth drwydded
Erthygl gan Janice B Edwards.
Copyright Details:
10/11/2024
Eitem wedi’i llwytho:
4/11/2024
Date originally created:
6/11/2024
Gwelediadau:
388
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment