Skip to main content

Y Parch. Michael D. Jones, 'Cenhadaeth Patagonia', 1870au

Disgrifiadau

Roedd yr erthygl hon a ysgrifennwyd gan y Parch. Michael D. Jones yn ystod 1870au yn apelio am nawdd ariannol i gynnal y genhadaeth Gristnogol ym Mhatagonia.

Nodir bod dirfawr angen cymorth ariannol ar y Parchedig D. Lloyd Jones, a anfonwyd i'r Wladfa i weithio fel cenhadwr ymhlith brodorion Patagonia. Yn yr erthygl hon, mae Michael D. Jones yn gofyn i'r eglwysi yng Nghymru gyfrannu rhan o'u casgliadau tuag at gynnal y genhadaeth hon. Roedd cyfeillion y genhadaeth ym Mhatagonia wedi gofyn i Gymdeithas Genhadol Llundain anfon cenhadwr i Batagonia, ond bu'r cais yn aflwyddiannus. Honnai Michael D. Jones nad oedd un cenhadwr o Brydain wedi gweithio gyda chyn lleied o gefnogaeth ariannol y tu cefn iddo.

Disgrifir brodorion Patagonia fel pobl 'hynod luniaidd a chydnerth - yn bobl gryfion a rhai o honynt yn dal iawn ... Y maent yn dirion eu tymmherau, ac yn gelfyddgar'. Hefyd, dywedir bod Cymry'r Wladfa yn gwneud llawer o ddefnydd o'r dillad gwely a'r 'peisiau' a wneir gan y brodorion.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Jones, Michael D.
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Bangor 2004
Publisher Ref:
GTJ17458
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
1880-1889
Gwelediadau:
1772
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment