Skip to main content

Llythyr oddi wrth Evan Evans, Efrog Newydd, at ei ewythr yn Ninas Mawddwy, Awst 1856 [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Anfonwyd y llythyr hwn gan Evan Evans, Turin, Lewis Co., Efrog Newydd at ei ewythr yn Ninas Mawddwy, Sir Feirionnydd, ym mis Awst 1856. Roedd Evan newydd ymfudo i Unol Daleithiau America o ardal Dinas Mawddwy. Ysgrifenna am y fordaith a dywed iddo fod yn sâl iawn ar y môr. Roedd y tywydd yn boeth iawn pan gyrhaeddodd ac mae'r tir yn anial iawn 'a digon anifir i'm golwg i'. Mae Evan yn gweithio gyda dau o Gymry eraill, sef gŵr o Sir Ddinbych a gwraig o Lanbryn-mair - ei gyflog misol yw £2. 14 swllt. Mae'n byw tua deuddeng milltir o gartref ei frawd ond nid oes capel Cymraeg yn agos ato. Mae'n amlwg bod Evan yn hiraethu'n fawr am ei deulu a'i gartref ac ar ddiwedd y llythyr mae'n cynghori John, Hendre, i aros adref, 'os daw yma bydd yn edifar ganddo ganwaeth: os bydd yn debig i mi'.

Owner:
Meirionnydd Archives, Gwynedd Archives Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Meirionnyd
Copyright Details:
Archifdy Meirionnydd, Gwasanaeth Archifau Gwynedd 2002
Publisher Ref:
GTJ18527
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
8/1856
Gwelediadau:
1955
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment