Sgwrs am eira drwm 1947 gyda Dewi Thomas, Ffynnon Ddewi - ffermwr wedi ymddeol.
Disgrifiadau
Mae Dewi Thomas, ffermwr wedi ymddeol o Gapel Dewi Sir Gaerfyrddin, yn sôn am yr eira drwm yng ngaeaf 1947 a’r her o gael llaeth i’r farchnad. Mae hefyd yn sôn am ei gymydog Bill Hinds, cadeirydd y Bwrdd Marchnata Llaeth. Siaradodd Dewi gyda Anthony Rees o brosiect stondin Llaeth Sir Gaerfyrddin ar 12 Mawrth 2024. Mae'r cyfweliad yn y Gymraeg. Y recordiad hwn yw'r ail o ddau sydd ar gael ar y wefan hon.
Yn yr “Eira Mawr” yng ngaeaf 1947, mae Dewi’n cofio dod adref o’r ysgol yng Nghaerfyrddin ac roedd hi mor wyntog ac yn bwrw eira fel ei bod yn anodd anadlu.
Roedd yr eira dros 6 troedfedd o ddyfnder yn y cloddiau ac ni allent adael y fferm ar hyd lôn y fferm am 3 wythnos. Nid oedd tractorau â llwythwyr blaen, ac roedd y brif ffordd wedi’i blocio gan eira felly ni allai casgliadau ‘churns’ llaeth ddigwydd.
Pan gafwyd gwybod yn y diwedd y byddai’r lori’n dod, cliriwyd y ffordd o’i blaen gan 12 dyn â rhawiau.
Mae’n cofio helpu ei dad i gario 2 neu 3 ‘churn’ deg galwyn ar draws caeau llawn eira (300 llath) i gyfarfod â’r lori. Nid oeddent wedi gallu mynd â llaeth i’r hufenfa am 3 wythnos ac felly nid oeddent wedi cael eu talu.
Roedd Bill Hinds, a oedd yn aelod amlwg o’r Bwrdd Marchnata Llaeth, yn gymydog agos i Dewi ac roedd ei ddylanwad yn ddefnyddiol wrth gael y lorïau drwodd. Roedd ei dad, Ben Hinds, yn Is-gadeirydd yn 1947. Mae Dewi’n tybio iddo wneud llawer o arian drwy fuddsoddiadau, a gwelodd Dewi ei ewyllys yn cadarnhau ei statws fel aml-filiwnydd.
Ni achosodd eira 1963 rwystro’r ffordd i’r fferm, ond roedd hi’n oer iawn ar -15°C am 3 wythnos. Roeddent yn gallu defnyddio’r bocs ar y tractor i glirio’r eira a chludo ‘churns’. Roedd y gorchudd eira yn amddiffyn y glaswellt rhag yr oerfel eithafol, ac mae Dewi’n cofio ei bod yn rhy oer i ddefnyddio’r tŷ bach tu allan, sef yr unig un oedd ar gael.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment