Skip to main content

Ailadeiladu Hanes: Y Fountain Inn Troedrhiwgwair

Disgrifiadau

Cynhyrchwyd y gyfres o ffilmiau byr gan Made In Tredegar sy’n canolbwyntio ar adeiladau eiconig ym Mlaenau Gwent. O Dafarnau a Llety, i Leoedd Addoli, cynhyrchu Diwydiannol a Chyfarfodydd Cymdeithasol. Yn gweithio gydag ymddiriedolaeth Troedrhiwgwair, rydyn yn hapus i ddangos chi’r trydedd raglen mewn cyfres o dri ar y pentref anhygoel.

Wedi’i leoli ym mhen pellaf pentref Troedrhiwgwair, daeth y fferm hyfryd yma i fod yn dafarn yn y Fountain Inn, a byddai’n gwasanaethu’r gymuned leol am dros 100 mlynedd. Fel calon gymunedol y pentref byddai’n chwarae rhan hollbwysig yn y gymuned cyn cau y dilyn marwolaeth drist y perchennog. Heddiw, er gwaetha'r ffaith ei fod yn adeilad rhestredig gradd II, mae’n sefyll yn wag ac yn aros am ei bennod nesaf yn ei hanes.

Cafodd y prosiect yma ei gefnogi gan y Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Cadw. Wedi’i greu gan bobl Blaenau Gwent a Gwirfoddolwyr Made In Tredegar. Mae isdeitlau Saesneg a Chymraeg ar gael trwy’r nodwedd isdeitlau ar YouTube.

Owner:
Made in Tredegar
Crëwr:
Made in Tredegar
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2021
Eitem wedi’i llwytho:
8/5/2021
Gwelediadau:
897
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment