Ailadeiladu Hanes: Y Tredegar Arms
Disgrifiadau
Cynhyrchwyd y gyfres o ffilmiau byr gan Made In Tredegar sy’n canolbwyntio ar adeiladau eiconig ym Mlaenau Gwent. O Dafarnau a Llety, i Leoedd Addoli, cynhyrchu Diwydiannol a Chyfarfodydd Cymdeithasol.
Fel un o’r tafarndai cyntaf yn Nhredegar daeth y Tredegar Arms i fod yn un o’r adeiladau mwyaf eiconig yn “Y Cylch” fel mae'n cael ei adnabod heddiw. Wedi iddo gael ei adnewyddu drwyddo draw dechreuodd yr adeilad rannu ei gyfrinachau! O fwsgedi’r Siartwyr wedi’u cuddio yn ei waliau, i risiau o ganrifoedd yn ôl a chelloedd carchar o dan yr adeilad. Mae’r Tredegar Arms yn un o’r tlysau yng nghoron Blaenau Gwent.
Cafodd y prosiect yma ei gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Cadw. Wedi’i greu gan bobl Blaenau Gwent a Gwirfoddolwyr Made In Tredegar. Mae isdeitlau Saesneg a Chymraeg ar gael trwy’r nodwedd isdeitlau ar YouTube.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment