Ailadeiladu Hanes: Pentref Troedrhiwgwair
Disgrifiadau
Cynhyrchwyd y gyfres o ffilmiau byr gan Made In Tredegar sy’n canolbwyntio ar adeiladau eiconig ym Mlaenau Gwent. O Dafarnau a Llety, i Leoedd Addoli, cynhyrchu Diwydiannol a Chyfarfodydd Cymdeithasol. Gan weithio gydag ymddiriedolaeth Troedrhiwgwair, rydym yn hapus i ddangos chi’r trydedd raglen mewn cyfres o dri ar y pentref anhygoel.
Unwaith roedd y pentref Troedrhiwgwair yn gymuned ffyniannus ar ochr y mynydd o dan Tredegar. Gyda thros 96 o dai, eglwysi, tafarn, swyddfa bost a mwy, tybiai pawb y byddai'n parhau yno am byth. Yn anffodus, oherwydd ofnay y byddai’r mynydd tu ôl y pentref yn symud, mynnodd y cyngor lleol bod y trigolion yn symud mas fel bod y pentref i gyd yn gallu cael ei ddymchwel. Dyma stori'r rhai wnaeth ymladd i aros yn eu tai.
Cafodd y prosiect yma ei gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Cadw. Wedi’i greu gan bobl Blaenau Gwent a Gwirfoddolwyr Made In Tredegar. Mae isdeitlau Saesneg a Chymraeg ar gael trwy’r nodwedd isdeitlau ar YouTube.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment