Skip to main content

Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957

Disgrifiadau

Yr Archdderwydd Dyfnallt Trefin (Ceidwad y Cledd), Crwys a Cynan yn dadweinio'r Cledd ar y Maen Llog.
Llun 1: Dau gyn-Archerwydd - Cynan a Crwys - yn arwain, a Dyfnallt yn dilyn pan gyhoeddwyd Prifwyl 1957.
Llun 2: Mrs Morfudd Pretty, Llanfairpwyll, yn dychwelyd o'r Maen Llog ar ol iddi gyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd Dyfnallt a welir yn sefyll ar y Maen Llog. I'r dde gwelir y cyn-Archdderwyddon Cynan a Crwys.
Llun 3: Wenda Owen, Llangefni (chwith) a Lesley Alberston, Bryn Teg, morynion y llys yn seremoni cyflwyno'r Aberthged.
Llun 4: Miss Doris Own o Foelfre (ar y chwith) a gyflwynai'r Aberthged i'r Archdderwydd ar ran morynion Mon
Llun 5: Miss Morfudd Pretty yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd Dyfnallt ar y Maen Llog. I'r chwith i'r Maen Llog mae Trefin, Ceidwad y Cledd, ac i'r dde mae Cynan.
Llun 6: Miss Doris Owen yn cyflwyno'r Aberthged i'r Archdderwydd Dyfnallt ar y Maen Llog.
Lluniau 7 - 8: Miss Doris Owen yn dychwelyd o'r Maen Llog, gyda morynion y llys, ar ol iddi gyflwyno'r Aberthged i'r Archdderwydd Dyfnallt.
Llun 9: Cynan, Cofiadur yr Orsedd, yn darllen Sgrol y Cyhoeddi o'r Maen Llog, lle eistedda'r Archdderwydd Dyfnallt.
Llun 10: Yr Archdderwydd Dyfnallt ar y Maen Llog. I'r chwith mae Trefin, Ceidwad y Cledd, ac i'r dde mae Cynan a Crwys. Wrth droed y Maen Llog mae pobl ifainc yn cyfeilio i'r Ddawns flodau.
Llun 11: Merched o Ysgol y Sir, Llangefni, yn dawnsio'r Ddawns Flodau.
Llun 12: Dim disgrifiad
Llun 13: Y darpar Archdderwydd William Morris, Dilys Cadwaladr a Gwyndaf.
Lluniau 14 - 15: Y dorf yn gwylio Seremoni'r Cyhoeddi.
Llun 16: Yr Archdderwydd Dyfnallt, Trefin (Ceidwad y Cledd), Crwys a Cynan yn dadweinio'r Cledd ar y Maen Llog.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
688
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment