Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1965, Y Drenewydd yn 1964
Disgrifiadau
Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1965, Y Drenewydd yn 1964
Lluniau 1 - 2: "Mr John Roberts, Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn, 1965, yn edrych yn hapus iawn ar lwyddiant y Seremoni Gyhoeddi."
Lluniau 3 - 4: "O'r chwith: Sidney Hughes (Macwy), Mrs Margaret Lewis Jones (cyflwynydd y Corn Hirlas), a Maldwyn Hughes (Macwy) - y tri o Lanbrynmair."
Llun 5: Mrs Margaret Lewis Jones, a gyflwynai'r Corn Hirlas.
Llun 6: "Y plant wedi ymgolli'n llwyr yn y ddawns flodau a'r dyrfa wedi ei chyfareddu."
Llun 7 - 8: "Yn y canol Miss Sioned Ann Jones, Drenewydd, cyflwynydd yr Aberthged. O boptu iddi mae morwynion y Llys - Mary Hughes, o'r Foel, ar y chwith, a Meinir Jones, Cwmllinau, ar y dde."
Lluniau 9 - 10: "Nia Roberts a Sioned Davies o Ysgol Gynradd y Trallwng - yr unig ddwy Gymraes ymysg y parti o'r ysgol a berfformiodd y ddawns flodau yn y seremoni gyhoeddi. Y mae gweddill y parti'n dysgu Cymraeg fel ail iaith."
Llun 11: "Mr J. A. Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn 1965 yn cyflwyno'r Rhestr Testunau i'r Archdderwydd."
Llun 12: "Mrs Nest Davies a Mr W. Thomas, a fu'n hyfforddi'r merched a berfformiodd y ddawns flodau, ynghyd a Mrs June Davies, a wnaeth eu gwisgoedd."
Lluniau 13 - 17: "Yr Archdderwydd Cynan yn derbyn yr Aberthged gan Miss Sioned Ann Jones, Drenewydd."
Lluniau 18 - 20: Yr Archdderwydd Cynan yn derbyn y Corn Hirlas oddi wrth Mrs Margaret Lewis Jones, o Llanbrynmair.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment