Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952
Disgrifiadau
23 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952.
Llun 1: Y ddirprwyaeth a wahoddai bawb a oedd yn Aberystwyth i ddyfod i'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Rhyl y flwyddyn nesaf. Yn eistedd y mae Dr B Haydn Williams, cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod, a'r Parch Dr Tecwyn Evans.
Llun 2: Mrs Eileen Thomas, Lerpwl, a enillodd y gystadleuaeth unawd contralto (agored).
Llun 3: Mr R Morton Nance yn cael ei derbyn yn aelod anrhydeddus o Orsedd Beirdd Ynys Prydain, er y mynna'r 'Western Mail' ei fod wedi marw ers mis Ionawr! Gydag ef mae Trefin.
Llun 4: Morwyn y Fro yn cario'r aberthged.
Llun 5: Yr Archdderwydd Cynan ar y Maen Llog
Llun 6: Yr Archdderwyd Cynan yn derbyn yr aberthged oddi wrth Mam y Fro. (Margaret Meredith fwy na thebyg)
Llun 7: Yr Archdderwydd Cynan ar y Maen Llog
Llun 8: Morwyn y Fro yn cyflwyno'r aberthged i'r Archdderwydd Cynan.
Llun 9: Yr Archdderwydd Cynan ar y Maen Llog
Lluniau 10 - 13: Aelodau o'r Orsedd yn y seremoni
Llun 14: Yr Archdderwydd Cynan yn derbyn aelod newydd i'r Orsedd
Llun 15: Yr Archdderwydd Cynan i'r Corn Hirlas
Llun 16: Yr Archdderwydd Cynan, Erfyl Fychan, R Morton Nance, Crwys a Threfin yn gafael yn y cledd.
Llun 17: Mam y Fro, a'r Corn Hirlas.
Lluniau 18 - 22: Dim Disgrifiad
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment