Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1956, Aberdar
Disgrifiadau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1956, Aberdar
Llun 1: Band Llanrug yn Arfon a ddaeth yn drydydd yn Adran C yn Aberdar.
Llun 2: Lynwen Leach, negesydd yn Eisteddfod Aberdar
Lluniau 3 - 4: "Un o'r pethau a ddaeth yn sefydliad ynddo'i hun yn y Brifwyl bellach yw'r canu cynulleidfaol yn y nos ar sgwar neu un o heolydd tre'r Wyl. A dyma arweinydd cyson y cymanfaoedd awyr agored, cartrefol hynny er un mlynedd ar ddeg - Mr Tawe Griffith, o Lundain. Mae'n wr sy'n gyfarwydd iawn a'r gwaith oherwydd ef hefyd sy'n arwain y canu Cymraeg yn Hyde Park bob nos sul er pan symudodd i Llundain o Gwmbrala, Abertawe (treflan John a Mel Charles hefyd gyda llaw), bedair blynedd ar ddeg yn ol. Er y bu canu Cymraeg yn Hyde Park am hanner can mlynedd, gyda dyfodiad Mr Griffith yno, meddir, y daeth "pethau'n drefnus."
Lluniau 5 - 6: "John Elwyn, mab i nyddwr o Gastellnewydd Emlyn, a darlithydd yn Winchester, a enillodd fedal aur am ei ddarlyn mewn olew o feysydd Ceredigion."
Llun 7: "yr oedd yn ddiwrnod mawr i fandwyr Deiniolen, Arfon, ddydd llun. Daeth band y fro chwarelyddol hon y drydydd yn adran A ac yn gyntaf yn adran B."
Llun 8: "Band Deudraeth a deithiodd o Feirionydd i Aberdar i ddod yn ol yn hapus efo'r wobr gyntaf yn adran 3."
Llun 9: K Mellor, aelod o fand Melingruffydd yn cusgu'n drwm, a does dim syndod - y diwrnod cynt fe gymerodd ran mewn dwy o gystadleuthau'r bandiay cyn mynd i weithio shift nos fel plismon yna mynd yn syth i ymarfer gyda'r band am wyth o'r gloch y bore.
Llun 10: "Egwyl wedi'r chwythu i ferched o fand arian Rhymni, ddydd Llun."
Llun 11: "Cor Cymry Llundain a ddaeth i gystadlu i Aberdar ddydd Llun. Cor Gwent a aeth a'r wobr - ond ni effeithiodd hynny ar fwynhad y Cymry ifanc hyn."
Llun 12: "Dyma lun y tynnwr lluniau. Dafydd Heddwyn Elias, o Gaerffili, yw'r Cymro cyntaf i ennill plac y Brifwyl yn adran ffotograffiaeth. Enillodd ef y llawryf hwn am y lluniau a dynnodd mewn lliw."
Llun 13: "Miss Non Williams gyda pharti cyd-adrodd Glyn Nedd."
Llun 14: Parti Unsain Maerdy, y Rhondda.
Lluniau 15 - 16: Mr James Griffiths A.S. yn llongyfarch arweinydd Cor Llanelli ar ol iddynt ennill y wobr gyntaf yn y prif gystadleuaeth gorawl a chwpan y Cymro.
Lluniau 17 - 18: Doedd neb yn deiwng yng nghystadleuaeth y Goron ac yma gwelir y Cledd wedi ei osod ar draws y Gadair. O'r chwith: Erfyl Fychan, Trefin, Dyfnallt a Cynan.
Llun 19: "Band Taro Penywaun, Aberdar."
Llun 20: Shon a Shan Dwyryd, Dolgellau, cyntaf ar y ddeuawd cerdd dant dan 18 oed.
Lluniau 21 - 22: Cor Llanelli enillwyr y brif gystadleuaeth gorawl.
Lluniau 23 - 24: Gosod y Cledd ar draws y Gadair. 'Doedd dim teilyngdod yng nghystadleuaeth y goron.
Lluniau 25 - 26: "Dydd Mawrth y siomedigaeth oedd hi eleni. Mae'r cledd ar draws y gadair; nid oes undyn i eistedd ynddi i dderbyn ei goron, ac y mae mawrion yr Orsedd yn ei gwylio. O'r chwith - Erfyl Fychan, Trefin, Dyfnallt a Cynan."
Llun 27: Cor Cydweithredol Ynyshir a'r Borth, a ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth i gorau dan 16 oed.
Llun 28: "Parti Unsain Ysgol Gymraeg Aberdar."
Lluniau 29 - 30: Dilys Wynne Williams, arweinydd Cor Caernarfon yn llongyfarch arweinydd Cor Llanelli a enillodd gwpan 'Y Cymro' yn y prif gystadleuaeth gorawl.
Llun 31: Dyfnallt yn annerch y gynulleidfa yn ystod seremoni ddi-goron brynhawn Mawrth yr Eisteddfod.
Llun 32: Mr James Griffiths A.S. yn llongyfarch arweinydd cor buddugol Llanelli.
Llun 33: "Gwaith trist Mr Meirion Lewis, ygrifennydd y Brifwyl, nawn Mawrth, oedd rhoi'r goron yn ei hol."
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment