Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962 , yn 1961
Disgrifiadau
20 negatif : du a gwyn. Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962 , yn 1961.
Dwy o enethod y ddawns flodau yn Llanelli yn aros eu tro i symud i Gylch yr Orsedd.
Llun 1: Bu ymarfer caled ar y ddawns flodau yn Llanelli, a dywedodd Cynan na welodd erioed gystal perfformiad o'r ddawns. Hyfforddwyd y genethod gan Miss Christine Jenkins a Miss Hazel Thomas.
Llun 2: Plant y ddawns flodau yn ymarfer, a Dyfed Evans, gohebydd "Y Cymro" yn sgwrsio a Miss Mary C Evans, a gyflwynai'r Aberthged yn ystod seremoni'r Cyhoeddi.
Llun 3: Mewn rihyrsal yn y bore -- Mary C Evans, a gyflwynai'r Aberthged, a morynion ei llys Vivienne Davies (13 oed) a Lyn Tholmas (13).
Llun 4 - 5: Yma'n paratoi'r Aberthged gyda Mary C Evans a'i cyflwynai i'r Archdderwydd yn seremoni'r Cyhoeddi yn Llanelli, y mae Miss Myfanwy Bowen, athrawes yn yr ysgol Gymraeg, Llanelli. Y mae Miss Bowen yn aelod o bwyllgor yr orsedd a'r pwyllgor llety a chroeso a thipyn o bopeth. Pan oedd y brifwyl yn Llanelli yn 1930 ei thad, Myfyr Hefin (brawd Ben Bowen) oedd ysgrifennydd pwyllgor yr Orsedd a'i mam a ofalai am wisgoedd y beirdd. Yr anhawster mwyaf wrth baratoi'r Aberthged eleni fu sicrhau tywysennau o wenith. Ond fe gafwyd digonedd yn y diwedd o Dde America neu'r India neu rywle -- mewn bocs bananas.
Llun 6 - 7: Aelodau o'r pwyllgor yn gofalu am y trefniadau munud olaf cyn y seremoni.
Llun 8 - 11: Bore'r Cyhoeddi -- a phrysurdeb yn ysgol ramadeg y merched Llanelli lle mae pump o athrawesau -- Mrs R Russell, Miss E Harries, Miss C Harry, Mrs M Jones a Mrs W J Howells, yn darparu'r penwisgoedd i blant y ddawns flodau.
Llun 12: Mrs Megan Rees a gyflwynai'r Corn Hirlas i'r archdderwydd yn y cyhoeddi yn Llanelli -- a'r ddau facwy Gary a Meurig Nicholas. Yn Llanelli gwisgai'r merched a gyflwynai'r Corn Hirlas a'r Aberthged benwisgoedd newydd sbon o ymylwe aur drud. Sicrhawyd yr arian i'w prynu gan Mr Oswyn Evans o Lanafan, a gasglodd �60 oddi wrth ei gydnabod a'r mamau a fu'n cyflwyno'r Corn Hirlas yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Cynlluniwyd y penwisgoedd gan Cynan a gwniwyd hwy gan Delynores Eryri. Lluniwyd cist hardd i'w cadw gan Mr John Owen, Felinengan, Porthaethwy. Gorchwyl anodd iawn fu sicrhau'r ymylwe aur ar gyfer y penwisgoedd. Methwyd a chael peth ym Mhrydain ond llwyddodd Mr Jack Pollecoff, siopwr dillad ym Mhwlleli i gael peth o Ffrainc yn y diwedd.
Llun 13: Cyhoeddi Eisteddfod Llanelli
Llun 14: Rhan o'r gynulleidfa fawr yn seremoni'r Cyhoedddi ym Mharc Howard, Llanelli.
Llun 15: Erfyl Fychan, yr Arwyddfardd, yn arwain gorymdaith yr Orsedd o Barc Howard, Llanelli wedi'r Cyhoeddi.
Llun 16: Maer Llanelli, y Cynghorydd William Nurse yn cyrraedd seremoni'r Cyhoeddi.
Llun 17: Yr Archdderwydd Trefin ar y Maen Llog yn ystod Seremoni'r Cyhoeddi. Ar y dde iddo mae'r Derwydd Gweinyddol Morgan Watcyn, y Dirprwy Archdderwydd Cynan a'r Cyn-Archdderwydd Crwys. Ar y chwith mae Dilwyn Miles, Ceidwad y cledd, a Gwynn o'r Llan, trefnydd cerddoriaeth yr Orsedd, a beirdd y wisg wen yn y cefndir yw'r Prifardd W J Gruffydd, Alun Ogwen, Prif Ddistain yr Orsedd, y Prifardd Gwilym R Tilsley a'r Prifardd Herman Jones.
Llun 18: Miss Mary C Evans yn cario'r Aberthged yn seremoni'r Cyhoeddi.
Llun 19: Miss Mary C Evans a plant y ddawns flodau yn seremoni'r Cyhoeddi.
Llun 20: Dwy o enethod y ddawns flodau yn Llanelli yn aros eu tro i symud i Gylch yr Orsedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment