Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 2 Tachwedd 1862 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae'r bechgyn i gyd yn iach ac fe ymunodd John Owens â nhw ddoe.
Maent wedi symud dwy filltir ar bymtheg ers ei lythyr diwethaf ac wedi gosod eu camp yn agos i dref Nicholasville, Kentucky. Roedd y gelynion yn yr ardal hon fis diwethaf ond cawsant eu 'routio' gan y milwyr.
Mae John yn gofidio unwaith eto am farwolaeth Henry Jones yn enwedig wedi iddo glywed fod ei deulu'n
'teimlo yn byr alarus ar ei ôl'.
Mae wedi pasio heibio safle tair brwydr lle y torrwyd popeth a gwelodd olion y bwledi yn y coed. Maent wedi clywed fod y 'rebels' wedi ffoi tuag at Tennessee ac mae'n lled debyg y byddant yn mynd yno ar eu holau yn fuan.
Roedd John wedi gweld tri chant o'r gwrthryfelwyr oedd wedi ffoi
'yr sydd golwg ofnadwy o fler arnynt nid sydd ganddynt ddigon i giddio ei noithni'
Mae wedi clywed fod cannoedd ohonynt yn ffoi pob wythnos.
Mae'n sôn am anfon ei gyflog adref cyn bo hir ac mae'n gofyn i'w rieni anfon stampiau ato.
Ar ben y llythyr hwn mae llun printiedig coch a glas.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment