Y Dafarn Goch, lle ganed y bardd Goronwy Owen (1723-69), Llanfair Mathafarn Eithaf
Disgrifiadau
Ganed y bardd Goronwy Owen (Goronwy Ddu o Fôn) (1723-69) yn 'Y Dafarn Goch' ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Rad Pwllheli ac Ysgol Friars Bangor ac er iddo fynd yn ei flaen i Goleg Iesu Rhydychen, gadawodd y sefydliad hwnnw ym 1745 heb radd. Aeth yn offeiriad ym 1746 gan dreulio nifer o flynyddoedd yn alltud yn Lloegr. Ym 1757 derbyniodd swydd athro yng ngholeg William a Mary, Williamsburg, Virginia, Unol Daleithiau America. Bu farw ei wraig a'i blentyn yn ystod y fordaith. Ailbriododdd yn America ond bu farw ei ail wraig a'i blentyn yn fuan wedyn. Cafodd y drasiedi hon gryn effaith ar Owen ac aeth i yfed a byw'n afrad. Yn y pen draw, collodd ei swydd ac ym 1760 aeth yn offeiriad i blwyf St Andrew's, Virginia. Priododd am y trydydd tro ym 1763 a threuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn Virginia, yn offeiriad a thyfwr tybaco.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment