Llythyr oddi wrth Mary Jones at ei brawd a'i chwaer, 23 Gorffennaf 1860 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Llythyr a anfonodd Mary Jones, brodor o Lanfihangel-y-Pennant, at ei brawd a'i chwaer o Ballarat, Awstralia, 23 Gorffennaf 1860.
Mae galar Mary am ei phlentyn ifanc, a fu farw yn ddiweddar, yn amlwg iawn yn y llythyr hwn. Mae hi'n gofyn i'w brawd a'i chwaer gymryd gofal arbennig o'r llun o William Henry a anfonodd atynt, oherwydd 'dyna gimant welwch bith o mlentin bach anwyl'. Maent yn bwriadu gosod carreg ar ei fedd a phalisâd haearn o'i amgylch. Mae hi'n ddiolchgar iawn fod ganddynt ddigon o arian i'w gladdu'n barchus. Mae William, ei gŵr, yn dal i alaru am ei fab, roedd y plentyn yn fwy agos at ei dad nag at ei fam.
Dywed Mary eu bod wedi llwyddo i werthu'r tŷ am £500. Maent bellach yn berchen ar dri 'twll aur' sydd yn talu'n dda, eu henwau yw 'Llanberis', 'Seventy' a 'Last Chance'. Erbyn hyn maent yn byw mewn tŷ brics ac mae hi'n aml yn dychmygu ei mam a'i chwaer yn eistedd yn y parlwr yn yfed te. Nid yw Mary wedi cyflogi morwyn ers marwolaeth ei baban, William Henry. Ychydig iawn o waith sydd i'w wneud yn y tŷ ac nid yw'n pobi nac yn golchi ychwaith. Nid yw'n dioddef o unrhyw anhwylder ond mae hi'n wan iawn. Mae hi'n gobeithio y bydd yn medru bod o gymorth i'w rhieni cyn bo hir, a phawb arall sydd wedi bod yn gefn iddi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment