Stori'r CARTAGENA
Enw gwreiddiol y CARTAGENA oedd y TR4. Roedd hi’n un o 60 o dreill-longau ysgubo ffrwydron a archebwyd yng Nghanada at ddefnydd y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddynt yn gopïau o’r treill-longau Dosbarth British Castle a oedd yn seiliedig ar y prototeip masnachol a ddyluniwyd gan y Smith Dock Company, Stockton-upon-Tees. Cafodd y TR4ei hadeiladu gan y Port Arthur Shipbuilding Company, Ontario, a daeth yn rhan o Lynges Frenhinol Canada ym mis Mai 1918.
Y tasgau milwrol a roddwyd fel rheol i’r Treill-longau Morlys hyn oedd patrolio, hebrwng confois ac ysgubo ffrwydron. Cafodd mwy na 200 o’r llongau hyn eu suddo, gan ffrwydron gan amlaf, wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment