Skip to main content

Cynllun Rigio ar gyfer y TR4, Treill-long Morlys a Ailenwyd yn CARTAGENA

Disgrifiadau

Mae’r cynllun hwn yn cynnwys diagram ar gyfer gosod rigin treill-longau Morlys fel y TR4.Roedd cynllun y llong wedi’i seilio ar ddyluniad a gafodd ei baratoi gan Smith Dock Company o Middlesbrough ar ddechrau 1916. Defnyddiodd y Port Arthur Shipbuilding Co. Ltd. o Port Arthur, Ontario, y cynllun i adeiladu 60 treill-long dan gontractau a gafodd eu goruchwylio gan Lynges Frenhinol Canada.Yn y gornel dde uchaf mae’r cynllun hefyd yn nodi nifer yr eitemau yr oedd angen eu harchebu gan y Boston and Lockport Block Company. Ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y cwmni wedi’i leoli yn 210 Market Street, Lockport, Efrog Newydd, ond byddai dau dân trychinebus yn ei orfodi i gau maes o law.Ffynhonnell:Great Lakes Marine Archives ship plan collection / [gwnaethpwyd gan] Dave Benedet. Thunder Bay Public Library, Ontario, 2011.

Owner:
Dave Benedet; Thunder Bay Public Library, Ontario
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Copyright status unknown.
No identifying copyright information for this image available at The Thunder Bay Public Library.
Eitem wedi’i llwytho:
14/1/2019
Gwelediadau:
1033
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment