Skip to main content

Ysbyty Gogledd Cymru: Clywedig Y Cyn Guddiedig

Mae hen ysbyty Dinbych – y ‘Mental’ ar lafar gwlad – yn sefyll ar gyrion tref Dinbych. Yr hen enw swyddogol amdano oedd 'The North Wales Mental Asylum' ac fe’i adeiladwyd yn y 1840au fel ysbyty seiciatrig pwrpasol. Prif swyddogaeth ysbyty Dinbych yn ystod rhan fwyaf ei oes oedd fel cartref i bobl oedd yn dioddef salwch meddwl yn hytrach nag anabledd dysgu. Mae’n debyg bod gan y rheiny ddiagnosis ddwbl oedd yn cynnwys anabledd dysgu a chyflwr seiciatrig. “Wrth edrych yn ôl, ac o wybod yr hyn rydw i’n ei wybod heddiw, rydw i’n meddwl bod sawl un yno ag Asperger’s yn hytrach na salwch meddwl. Roedd pobl yn arfer â meddwl bod ganddyn nhw ryw fath o afiechyd sgitsoid ond erbyn hyn fuaswn i’n meddwl mai syndrom Asperger’s neu ryw fath o awtistiaeth oedd arnyn nhw.” – Clwyd, a weithiodd yn Ysbyty Gogledd Cymru o 1956 i 1995.. Fe gaewyd yr ysbyty yn 1996 ond mae dyfodol y safle’n bur ansicr.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment