Gêm bolws y tu allan i Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych
Disgrifiadau
Llun o grŵp o ddynion a menywod ar safle Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Mae modd gweld peli bowls ar y llawr o'u blaen, sy'n awgrymu eu bod yn cymryd rhan mewn pencampwriaeth fach neu sesiwn ymarfer fel tîm. Roedd chwaraeon yn rhan enfawr o'r amser hamdden mewn nifer o'r ysbytai ar draws Cymru. Graddiwyd cleifion yn ôl eu gallu, roedd y rhai ar raddfa isel (llai abl) yn cael eu cyfyngu rhag gadael yr ysbyty. Rhoddwyd mwy o ryddid i'r rhai yr ystyriwyd eu bod ar raddfa uchel ac felly, yn fwy abl. Yn aml, arferai preswylwyr graddfa uchel adael safle'r ysbyty a threulio diwrnodau yn y trefi lleol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu chwaraeon amrywiol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment