Skip to main content

Gwisg o ddefnydd bras na ellid ei rwygo

Disgrifiadau

Gwisg o ddefnydd bras na ellid ei rwygo. Cadwyd y rhain yn amgueddfa'r ysbyty

Gwallgofdy Siroedd Gogledd Cymru yn Ninbych yn codwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus, yn bennaf oherwydd y pryder ynghylch lles y Cymry Cymraeg a gâi eu hanfon cyn hynny i wallgofdai Lloegr. Craidd gwreiddiol yr ysbyty oedd adeilad trawiadol mewn arddull Jacobeaidd ar ffurf y llythyren U. Yr oedd yno hefyd dŵr canolog i'r cloc. Y cynllunydd oedd Thomas Fulljames o Gaerloyw ac agorwyd yr adeilad ym 1848. I goffáu'r prif noddwr, y tirfeddiannwr lleol Joseph Ablett, gosodwyd penddelw ohono mewn cilfach yn y cyntedd. Yr oedd lle yn yr adeilad gwreiddiol i 200 o gleifion, ond fe ehangwyd mwy a mwy arno nes bod yno, erbyn 1908, 'bentref' hunangynhaliol o fil o gleifion a staff ynghyd â chapel, fferm, gweithdai, a chyflenwadau preifat o ddŵr a thrydan. Ymhlith y datblygiadau pwysig a welwyd wedi'r rhyfel yr oedd cynlluniau i wasgaru'r cleifion a'r staff: cynlluniwyd chwe fila unigol i'r cleifion (ond dwy yn unig a godwyd), ychwanegwyd at hynny gartref sylweddol i'r nyrsys a chodwyd ysbyty i dderbyn cleifion gwirfoddol ('ysbyty'r nerfau') mewn fila gerllaw.

Yn y 1980au cyhoeddwyd bwriad i gau Ysbyty'r Gogledd ac fe'i caewyd yn derfynol ym mis Medi 1995. Ymwelodd staff o'r Comisiwn Brenhinol ag ef ychydig cyn ei gau i wneud cofnod ffotograffig ohono. Ymhlith yr eitemau a gyffyrddai fwyaf â'r galon yr oedd y dillad yr arferai'r cleifion eu gwisgo, gan gynnwys gwisgoedd o ddefnydd bras ac esgidiau uchel y gellid eu cloi - eitemau a wnaed yn benodol ar gyfer y cleifion a fyddai'n rhwygo'u dillad neu'n cicio'u hesgidiau oddi ar eu traed. Ymhlith eitemau tebyg eraill yr oedd darlun gan glaf o'r cwrt yn y gwallgofdy lle câi'r dynion dipyn o awyr iach, a hwnnw'n gwrt cwbl wag. Y syndod oedd bod llawer o gofnodion y cleifion yn dal ar glawr, a rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod sefydlu'r ysbyty. Bu'r archif yn sail i brosiect ymchwil ar hanes salwch meddwl yn y gogledd dan arweiniad Dr Pam Michael o Brifysgol Cymru, Bangor.

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
6555
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment