Prif neuadd Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych
Disgrifiadau
Llun o du mewn y brif neuadd yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, a dyma'r man lle y byddai nifer o'r gweithgareddau hamdden wedi cael eu cynnal. Byddai'r rhain yn cynnwys gweithgareddau megis bingo, dawnsfeydd, chwaraeon y tu mewn ac eraill. Roedd hyn yn gyffredin ar draws yr holl ysbytai yng Nghymru. Graddiwyd cleifion yn ôl eu gallu, roedd y rhai ar raddfa isel (llai abl) yn cael eu cyfyngu rhag gadael yr ysbyty. Rhoddwyd mwy o ryddid i'r rhai yr ystyriwyd eu bod ar raddfa uchel ac felly, yn fwy abl. Yn aml, arferai preswylwyr graddfa uchel adael safle'r ysbyty a threulio diwrnodau yn y trefi lleol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu chwaraeon amrywiol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment