Skip to main content

Y Siartwyr

Casgliad o eitemau yn ymwneud gyda'r Siartwyr, yn cynnwys adnoddau addysg. Yn bennaf yn deillio o brosiect Cynefin — Y Siartwyr. Mae prosiect Datgloi Achosion Llys y Siartwyr yn dod a geiriau’r dynion cyffredin a oedd yn rhan o’r frwydr dros ddemocratiaeth yng nghymoedd De Cymru ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria yn fyw. Mudiad dosbarth gweithiol yn y ddeunawfed ganrif oedd y Siartwyr, yn ymgyrchu i gael hawliau gwaith a gwleidyddol gwell ar gyfer dynion mewn gwaith. Roedd eu hymgyrch wedi ei selio ar siart gyda chew phwynt sylfaenol. Daeth y siart i gael ei adnabod fel Siart y Bobl a gafodd ei lansio gan William Lovett ar ran y London Working Men’s Association, ym mis mai 1838. Ar hyn o bryd mae dros 3,000 o ddogfennau, a’u casglwyd yn syth ar ôl y terfysg yng Nghasnewydd ar y 3ydd a’r 4ydd o Dachwedd wrthi’n cael eu trawsgrifio. Cafodd rhai o’r dogfennau eu defnyddio yn achos syfrdanol teyrnfradwriaeth a ddigwyddodd yn neuadd dref Sir Fynwy mis yn ddiweddarach. Mae’r prosiect wedi dod a nifer o sefydliadau eraill gyda deunydd addysgol am y Siartwyr ynghyd. Mae'r rhain wedi eu hychwanegu i wefan Casgliad y Werin er mwyn i ysgolion a grwpiau cymunedol eu defnyddio.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment