Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad William Davies o Goed-duon, cyf. 4, tudalen 22 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Croesholiad William Davies yn ystod achos llys arweinwyr y Siartwyr, yn dilyn y Gwrthryfel yng Nghasnewydd, Tachwedd 1839.
Roedd William Davies yn fab i siopwr o Goed-duon. Roedd wedi bod yn aelod o gyfrinfa'r Siartwyr yn lleol ers mis Mai 1839, ac felly, roedd wedi bod yn bresennol mewn nifer o'r cyfarfodydd cyfrinachol lle cafodd trefniadau'r ymosodiad ar Gasnewydd eu trafod. Wrth gael ei groesholi, aeth Davies ati i egluro mwy am drefniadaeth y Siartwyr yn yr ardal, gan esbonio sut yr oedd gan y gwahanol gyfrinfeydd ran benodol i'w chwarae yn yr ymosodiad. Fodd bynnag, er gwaethaf ei gysylltiad agos â'r mudiad, ni chwaraeodd Davies unrhyw ran yn y gwrthryfel ei hun, gan iddo benderfynu aros adref yng Ngoed-duon tan hanner dydd ar fore Llun, 4 Tachwedd 1839 - sef diwrnod yr ymosodiad ar Gasnewydd. Dywedir iddo gael ei wawdio'n ddiweddarach gan y gwragedd lleol am ei ymddygiad llwfr. Roedd penderfyniad Davies i roi tystiolaeth yn yr achos llys hwn yn cael ei ystyried yn drobwynt yn yr ymchwiliad, gan fod ganddo gymaint o wybodaeth gyfrinachol am y Siartwyr a'u harweinwyr. Fodd bynnag, yn ddiweddarach, penderfynodd dorri amodau ei fechnïaeth.
Ffynhonnell: David J. V. Jones, 'The Last Rising: The Newport Insurrection of 1839' (Oxford, 1985).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment