Y diwydiannwr Francis Crawshay, c. 1870
Disgrifiadau
Francis Crawshay (1811-78) oedd ail fab y meistr haearn William Crawshay II, o Gastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Ar ddechrau'r 1830au, dechreuodd Francis ar ei waith yn reolwr ar Waith Haearn Hirwaun, a brynodd ei dad ym 1819, ynghyd a gwaith tunplat newydd yn Nhrefforest, ger Pontypridd. Roedd Francis yn gymeriad hynod: gwrthododd fyw yn Tŷ Mawr, Hirwaun, roedd yn well ganddo fyw mewn bwthyn i'r gogledd o'r gweithfeydd o'r enw Tir Gwyn Bach. Ym 1848 adeiladodd dŵr crwn i'r de-orllewin i'r dref, ble bu'n byw yn ystod yr haf. Adnabu ef fel Mr 'Frank' gan y gweithwyr a dysgodd Gymraeg er mwyn gallu cyfathrebu â nhw. Yn ddiweddarach symudodd o Hirwaun i Drefforest, ble y bu'n byw yn Forest House gyda'i wraig ac wyth o blant. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn gyfeillgar â Dr William Price, y Siartydd a derwydd. Cododd Francis gylch o feini derwyddol yng ngerddi Forest House a gafodd ei ddymchwel yn ystod y 1950au er mwyn ehangu'r coleg yn Nhrefforest. Roedd Francis yn arbennig o hoff o'r môr ac roedd yn berchen ar gwch hwylio stêm y byddai'n aml yn hwylio i Ffrainc. Yn dilyn cau gweithfeydd Hirwaun a Threffoest ym 1859 a 1867, ymddeolodd Francis i Bradbourne Hall, Sevenoaks, ble, yn ôl y sôn, yr oedd yn mwynhau cerdded o amgylch ei gartref mewn gwisg forwrol. Ffynonellau: Peter Lord, 'Portreadau Gweithwyr Francis Crawshay / The Francis Crawshay Worker Portraits' (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru / University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, Aberystwyth, 1996) ac M. S. Taylor, 'The Crawshays of Cyfarthfa' (London, 1967).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment