Skip to main content

Cyfweliadau, nodiadau a delweddau sy’n gysylltiedig â Phrosiect y Fritheg Frown, Bro Morgannwg, a recordiwyd gan yr artist Bettina Furnée, 2024

Mae’r eitemau hyn yn cynrychioli ymchwil ac ymgysylltiad gan yr artist Bettina Furnée, a recordiodd chwe chyfweliad a thaith gerdded gyhoeddus ym mis Medi 2024 fel rhan o’i chyfnod preswyl fel artist ym Mhrosiect y Fritheg Frown yn Ogwr, Bro Morgannwg. Bu Bettina’n cyf-weld rhai o’r gwirfoddolwyr, ecolegwyr a chominwyr sydd, ers degawdau lawer, wedi cynnal Old Castle Down fel cynefin olaf y fritheg frown yng Nghymru.

Mae’r recordiadau o’r cyfweliadau’n cwmpasu hanes prosiect y fritheg frown o adnabod y glöyn byw prin hwn yn Old Castle Down a Dyffryn Alun ddiwedd y 1970au hyd at gadwraeth, gweithgareddau ac arferion ffermio’r tir comin hwn heddiw.

Y cyfweliadau hyn oedd ffynhonnell geiriau’r artist ar gyfer ‘Britheg Brown’, cân newydd a galwad glir i’r fritheg frown, wedi’i gosod i gerddoriaeth gan y gyfansoddwraig Gymraeg Emma Daman Thomas. Perfformiodd ensemble o gantorion lleol y gân ar gyfer ffilm ar Old Castle Down mewn cydweithrediad ag Ysgol Gynradd Saint-y-brid, dau lefarydd a thelynor. Mae’r ffilm fer a ddeilliodd o hyn, Britheg Brown, Last Of the Species In Wales gan Bettina Furnée, yn deyrnged deimladwy i’r gymuned leol sy’n helpu i achub y glöyn byw hwn rhag difodiant.

Golygwyd y cyfweliadau gan yr artist er mwyn cael profiad gwrando gwell, ac maent wedi’u hanodi â chodau amser. Fe’u hategir gan ddeunyddiau gweledol a nodiadau ffynhonnell, lle mae’r artist wedi dewis darnau sain fel deunydd posibl i’w cynnwys yng ngeiriau’r gân.

I weld y ffilm:

https://www.naturambyth.cymru/en/our-work/arts-engagement/bettina-furnee/

 

Comisiynwyd gan Natur Am Byth!mewn cydweithrediad â’r Cadwraeth Glöynnod Byw.

Am yr artist: Ganwyd Bettina Furnée yn yr Iseldiroedd ac mae hi’n byw yng Nghaergrawnt. Mae ei hymarfer, sy’n seiliedig ar destun, yn amrywio o ddelweddau symudol a gosodiadau, i ddigwyddiadau byw a chomisiynau parth cyhoeddus. 

Gan ddefnyddio testun neu gyfweliadau fel deunydd, mae ei gwaith yn cynnwys chwarae â geiriau, sain, abswrdiaeth, pethau bob dydd, llithriant ac ofn y di-droi’n-ôl. Mae hi’n aml yn gweithio ar y cyd ag artistiaid a chyfranogwyr ar brosiectau gyda themâu mudo, hunaniaeth ac asiantaeth, sy’n chwyddo lleisiau’r gymuned.

Mae hi wedi cael ei chomisiynu’n helaeth, wedi arddangos mewn sioeau unigol ac mewn grwpiau, ac wedi cael cyfnodau preswyl a grantiau i gynorthwyo prosiectau y cychwynnodd ar ei phen ei hun. 

Astudiodd Bettina Furnée hanes celf, a hyfforddodd fel torrwr llythrennau cyn graddio gyda gradd Meistr mewn Celf Gyhoeddus o Goleg Celfyddydau Chelsea. 

Gweler mwy o’i gwaith: bettinafurnee.co.uk

Gwelediadau:
93
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
06/10/2025

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment