Cyfweliad gyda Richard Marks, 2024
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda Richard Marks, naturiaethwr, cadwraethwr a newyddiadurwr, yn siarad am gadwraeth bywyd gwyllt a hanner can mlynedd o wirfoddoli ym mhrosiect y Fritheg Frown ar Old Castle Down. Cynhaliwyd y cyfweliad ar 8 Medi 2024 gan Bettina Furnée, fel rhan o'i phreswyliad artist ar gyfer Natur Am Byth gyda phrosiect y Fritheg Frown, Bro Morgannwg. Cyfwelodd Bettina â gwirfoddolwyr, ecolegwyr a phobl gyffredin sy'n cynnal Old Castle Down fel cynefin olaf y Fritheg Frown yng Nghymru. Y sgyrsiau hyn yw ffynhonnell yr artist ar gyfer geiriau Britheg Brown, galwad i'r glöyn byw, wedi'i gosod i gerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Emma Daman Thomas. Bydd cantorion lleol yn perfformio'r gân ar gyfer ffilm ar Old Castle Down mewn cydweithrediad â chôr Ysgol Gynradd Saint-y-brid, siaradwyr a thelynor.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment